Muros

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Muros yn Asturia

Mae Muros (Sbaeneg: Muros de Nalón) yn ardal weinyddol arfordirol yn nhalaith Asturias, gydag arwynebedd o 8.09 km sgwâr. Ei ffin ogleddol yw Bae Bizkaia, i'r dwyrain mae afon Nalón, i'r de San Esteban (Sbaeneg: Pravia) a'i ffin gorllewinol yw Cuideiru. Ceir dau blwyf dinesig (adrannau gweinyddol): Muros de Nalón (sydd wedi'i rannu i bum pentref: Ea, Pumariega, Muros, Reborio a Villar) a San Esteban.

Y goeden ewcalyptws yw coeden y dref ac mae'n tyfu dros y llethrau yng nghyffiniau'r dref ac i lawr i'r arfordir.

Neuadd y Cyngor

Ceir dau adeilad hanesyddol o bwys: Plasty Valdecarzana a Vallehermoso ac Eglwys Santa María. Ceir golygfa banoramicaidd o arfordir Asturian o'r Mirador del Espíritu Santo.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell: Instituto Nacional de Estadística

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfesurynnau: 43°33′09″N 6°05′13″W / 43.5525°N 6.086944°W / 43.5525; -6.086944