Mur Aurelianus
Mur Aurelianus ger y Porta San Sebastiano | |
Math |
mur amddiffynnol, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Aurelian ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Rhufain ![]() |
Gwlad |
Yr Eidal ![]() |
Cyfesurynnau |
41.87329°N 12.49896°E ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
pensaernïaeth Rufeinig ![]() |
Deunydd |
Concrit ![]() |
Mur amddiffynnol o amgylch dinas Rhufain yw Mur Aurelianus (Lladin: Muri Aureliani). Adeiladwyd y mur rhwng 271 a 280 gan yr ymerawdwr Aurelianus.
Roedd muriau amddiffynol o amgylch Rhufain cyn hyn, yn enwedig y mur a briodolir i un o frenhinoedd cynnar Rhufain, Servius Tullius. Ail-adeiladwyd y mur yma wedi i'r ddinas gael ei chipio gan y Celtiaid dan Brennus yn 390 CC, ond yn y canrifoedd dilynol, tyfodd y ddinas ymhell tu hwnt i'r muriau hyn.
Llofruddiwyd Aurelianus yn mis Medi 275 gan Gard y Praetoriwm, a cwblhawyd y mur gan ei oluynydd, Probus. Roedd y mur yn wreiddiol yn 6 medr o uchder a 3.5 medr o drwch, gyda 383 o dyrrau ar gyfer gwylwyr.
Mae rhan helaeth o'r mur, tua 13 km ar lan ddwyreiniol afon Tiber, yn parhau mewn cyflwr da, yn enwedig y rhan ddeheuol. Dim ond ychydig weddillion sydd i'w gweld ar lan orllewinol y Tiber. Ceir hanes y mur yn y Museo delle Mura yn y Porta San Sebastiano.