Neidio i'r cynnwys

Mr. Lolipop, M. A.

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Mr Lolipop M.A)
Mr. Lolipop, M. A.
Enghraifft o:drama deledu Gymraeg a Saesneg
Dyddiad cynharaf1978
AwdurRhydderch Jones
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1970 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBBC Cymru a Charles Williams
Cyfarwyddwr/wyrJohn Hefin
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama deledu ddu a gwyn Gymraeg o 1970 ydi Mr. Lolipop, M. A. wedi'i chyfansoddi gan Rhydderch Jones a'i chynhyrchu gan BBC Cymru. Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan Wil Sam Jones[1], wedi'i golygu gan Gwenlyn Parry a'i darlledu yn Saesneg yn ogystal. John Hefin Evans oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo'r ddau gynhyrchiad.[1] Charles Williams oedd yn portreadu Mr Lolipop yn y ddwy iaith.

Charles Williams fel Mr Lolipop 1978

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriadau Cymraeg Cymeriadau Saesneg
Mr Lolipop Mr Lollipop
Miss Morris Miss Morris
Sarjant Sergeant
Miss James Miss James
Mr Lloyd Mr Lloyd
Cymdoges Neighbour
Plant : Janet, Ann, Trefor a David Children
Office Girl

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Drama deledu am unigrwydd y dyn lolipop, "Mr Lolipop M.A" yw hon. Yn yr olygfa gyntaf, gwelwn Mr Lolipop wrth ei waith yn "gwylio plant yn croesi'r ffordd".[1] Dilynwn ef yn ystod y dydd wrth iddo ymweld â gwahanol gymeriadau. Miss Morris ei gymydog yw'r gyntaf, "hen wraig tua 70 oed" ac yn "hen ferch". Mae'n cynnig coffi iddo, ond gan fod dwylo Mr Lolipop mor oer, mae'n gollwng y gwpan. Mae hi'n cynnig ei phaned ei hun iddo, ac yn "smalio" yfed o gwpan wag arall. Ond sylwa Mr Lolipop ar hyn, ac mae'n ymateb yn flin: "Peth gwirion ydi smalio. 'Deith smalio a monoch chi i un man. Rydw i'n pwyso, rydw i'n mynnu'ch bod chi'n yfad hwn. Hen lol wirion ydi smalio".[1]

Daw hi'n amlwg yn nghalon y ddrama, mai "smalio" bod yn athro ysgol mae Mr Lolipop yn ei gartref, gan ddychmygu fod ganddo ddosbarth o 4 plentyn.

Ond parhau i drafod y plant fu'n croesi'r ffordd mae Mr Lolipop gyda Miss Morris, a daw hi'n amlwg bod hithau hefyd yn rhan o'r ddrama ddychmygol ym mywyd Mr Lolipop. Pan gyrhaedda Mr Lolipop ei gartref, mae o wedi newid i wisgo gŵn athro ac yn canu cloch i hel y "plant" i'r "ysgol". Mae cymydoges arall yn gweiddi'n flin arno, gan ei gyhuddo o ddeffro ei babi "...rownd y blydi rîl. Dan glo ddylat ti fod, y diawl uffar." Mae hi am ei "riportio fo".[1]

Ynghanol ei wers ddychmygol, mae'r heddwas [sarjant] yn galw, wedi derbyn cwynion. Er ceisio ei rybuddio am y twrw, parhau i fynnu bod yn rhaid iddo alw'r "plant" i'r "ysgol" wna Mr Lolipop, cyn ail-ymuno efo Miss Morris yn y "staffrwm". Mae'r sarjant yn ymwybodol iawn nad oes unrhyw blant yno.

Mae Mr Lolipop yn trafod ymweliad y "bobbies" [heddweision] gyda Miss Morris, ond yn dweud mai un o'r plant oedd achos yr ymweliad. Mae'n crybwyll ei 'yrfa "yn Rhydychen yn 1917" yn astudio ar gyfer ei "M.A". Gwelwn o atebion Miss Morris ei bod hithau hefyd wedi arfer bod yn athrawes.

Ymwela'r Sarjant â "Swyddfa Iechyd Meddwl" er mwyn riportio Mr Lolipop wrth Miss James a Mr Lloyd, sy'n gweithio yno. Mae'r ddau yn galw i weld Mr Lolipop yn ei gartref, ac mae Mr Lolipop yn eu camgymeryd am arolygwyr "H.M.I." [Archwilwyr Addysg ei Mawrhydi]. Try'r sgwrs rhwng Miss James a Mr Lloyd at y ffaith bo Mr Lolipop "o'i go" ac y dylai fod "dan observation". Dadleua Mr Lloyd ei fod o'n "beryg mewn cymdeithas" tra bod Miss James yn dadlau ei fod yn "ddigon diniwad".[1] Mae Miss James yn cynnig iddo fynychu "Coleg Addysg Bellach", sef modd caredig o'i wahodd i'r ysbyty meddwl.

Wrth geisio ffarwelio â'i gymydog, Miss Morris, yn llawn cynnwrf am ei gynnig newydd, mae hithau yn erfyn arno i beidio mynd, gan ychwanegu "fydd gin i neb i sgwrsio". Yn ei hymdrechion daer i'w arbed, mae hi'n datgan wrtho "does na ddim plant". Mae Miss Morris yn cyfaddef wrtho mai "chwarae gêm" oedd y ddau. Wedi'i drechu, mae Mr Lolipop yn mynd ymaith gyda'r swyddogion iechyd, a gadewir Miss Morris yn ei gartref, yn ystyried a oes plant yno mewn gwirionedd, a'i peidio?[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y ddrama yn Gymraeg mewn du a gwyn ar BBC 1 ar 22 Mawrth 1970. Cyfarwyddwr John Hefin.[2]

Teitlau Saesneg y ddrama ym 1978 BBC

Darlledwyd y ddrama yn Saesneg mewn lliw ar BBC 2 Lloegr ar 19 Rhagfyr 1978. Cyfarwyddwr John Hefin.[3][4]

  • Mr Lolipop - Charles Williams
  • Miss Morris - Flora Robson
  • Sargeant - Glyn Owen
  • Miss James - Petra Davies
  • Mr Lloyd - Siôn Probert
  • Cymdoges - Jackie Skarvellis

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Jones, Rhydderch (1979). Mewn Tri Chyfrwng. Gomer. ISBN 0 85088 621 X.
  2. "Mr. Lolipop, M.A." Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-08-30.
  3. (yn en-US) Mr. Lollipop, MA (TV Movie 1978) - Full cast & crew - IMDb, https://www.imdb.com/title/tt12160374/fullcredits/, adalwyd 2025-08-30
  4. "BBC Programme Index". genome.ch.bbc.co.uk. 1978-12-19. Cyrchwyd 2025-08-30.