Mr Burton
| Enghraifft o: | ffilm |
|---|---|
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Dyddiad cyhoeddi | 4 Ebrill 2025 |
| Genre | ffilm am berson |
| Prif bwnc | Richard Burton |
| Cyfarwyddwr/wyr | Marc Evans |
| Cyfansoddwr | John Hardy |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Dynodwyr | |
Ffilm ddrama am fywyd cynnar yr actor Richard Burton gan y cyfarwyddwr Marc Evans yw Mr Burton a gyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2025.[1] Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig gan Ed Talfan, Hannah Thomas, Josh Hyams a Trevor Matthews. Sgwennwyd y sgript gan Tom Bullough a Josh Hyams yn Saesneg a phytiau o Gymraeg. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan John Hardy. Stuart Biddlecombe oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm a gafodd ei golygu gan Tim Hodges.
Mae'r ffilm yn 124 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw.
Plot
[golygu | golygu cod]Mae’r ffilm yn dangos dylanwad dwfn Philip Burton, athro Saesneg a chyfarwyddwr theatr, ar Richard Jenkins, dyn ifanc o gefndir difreintiedig ac anhapus. Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd mae Jenkins yn aelod o ddosbarth Saesneg Burton ym Mhort Talbot. Mae ganddo uchelgais i fod yn actor. Mae Philip Burton yn ei hyfforddi a'i annog. Mae Jenkins yn cymryd cyfenw ei athro ac yn dod yn Richard Burton, yr enw a fyddai'n cael ei adnabod wrtho trwy gydol ei yrfa ddilynol. Er hynny, mae diolchgarwch Richard yn troi'n ddrwgdeimlad, ac mae'r actor yn dechrau brwydro yn erbyn diod feddwol. Daw’r ffilm i ben gyda pherfformiad Richard gyntaf gyda’r Royal Shakespeare Company yn Stratford-upon-Avon yn 1951, ei lwyddiant ysgubol, a’i gydnabyddiaeth o’i ddyled bersonol i’w hen athro.[2]
Cast
[golygu | golygu cod]- Harry Lawtey – Richard Burton
- Toby Jones – Philip Burton, ei athro
- Lesley Manville – Ma Smith, ei letywraig
- Steffan Rhodri – Dic Jenkins, ei dad
- Aimee-Ffion Edwards – Cis James, ei chwaer
- Aneurin Barnard – Elfed James, ei frawd yng nghyfraith
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morris, Steven (28 Mawrth 2025). "'A beloved figure': Welsh village ready for tourists as Richard Burton biopic opens". The Guardian (yn Saesneg).
- ↑ "Mr Burton". Ffilm Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2025.