Mosg Jamal Abdel Nasser

Oddi ar Wicipedia
Mosg Jamal Abdel Nasser
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthAl-Bireh Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sylw! Peidied â drysu â Mosg Gamal Abdel Nasser, Cairo, Yr Aifft na Tripoli, Libya

Mosg Jamal Abdel Nasser (Arabeg: مسجد جمال عبد الناصر Masjid Jamal 'Abd an-Nasser) yw'r mosg fwyaf yn al-Bireh, tref 15 km i'r gogledd o Jerwsalem gyda phoblogaeth o oddeutu 40,000 ar y Lan Orllewinol, Palestina. Leolir y mosg yng nghanol y dref. Enwyd hi ar ôl diweddar arlywydd yr Aifft ac arweinydd cenedlaetholdeb Arabaidd, Gamal Abdel Nasser.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Pan agorwyd y mosg yn 1970 ei henw gwreiddiol oedd Mosg Newydd Al-Bireh. Wedi marwolaeth Nasser, penderfynwyd ei henwi ar ei ôl.[2] Yn Intifada Cyntaf Palesteina, galwodd trigolion y dref y mosg ar ôl Sayyid Qutb - Eifftwr, bardd, addysgwr, Islamydd a ystyrir yn "Tâd Jihadiaeth Salafi", yr athrawiaeth grefyddol-wleidyddol sy'n sail i wreiddiau ideolegol sefydliadau Jihadistiaid byd-eang fel al-Qaeda ac ISIL.[3] Crogwyd ef yn 1966 ar gyhuddiad o geisio dienyddio Nasser. Galwyd y mosg hefyd yn Mosg y Merthyron gan ddefnyddio ei lleoliad ar gyfer angladdau'r bobl a laddwyd yn y gwrthdaro. Gelwir pobl tref Al-Bireh y mosg yn Mosg Mawr Al-Bireh.

Ar 14 Mawrth 2002, meddiannodd Byddin Israel (IDF) y mosg a defnyddio ei minaret ar gyfer cêl-saethu, gan ladd pedwar Palesteinad.[4]

Ar 22 Medi 2007, gorymdeithiodd dwsinau o wragedd carcharorion gwleidyddol cysylltiedig â Hamas ac aelodau benywaidd eraill Hamas o Fosg Jamal Abdel Nasser at Sgwâr Al-Manara. Roeddynt yn protest yn erbyn yr hyn a welent fel carchariad gwleidyddol eu perthnasau gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (y PA). Fe'u hataliwyd rhag cyrraedd y sgwâr pan ddefnyddiodd lluoedd diogelwch PA nwy rhwygo i'w gwasgaru.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jamal Abdel Nasser Mosque Palestine Remembered. 2007-01-17.
  2. https://www.PalestineRemembered.com/GeoPoints/Ramallah_527/Picture_11638.html Jamal Abdel Nasser Mosque] Palestine Remembered. 2007-01-17. {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20180829161148/http://www.palestineremembered.com/GeoPoints/Ramallah_527/Picture_11638.html
  3. Manne, Robert (7 November 2016). "Sayyid Qutb: Father of Salafi Jihadism, Forerunner of the Islamic State". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 January 2019.
  4. Shalakany, Amr. Diary of an Egyptian in Ramallah Archifwyd 2013-10-20 yn y Peiriant Wayback. Al-Ahram Weekly. 2002-03-14.
  5. Matthews, Elizabeth G. Israel-Palestine Conflict. Taylor & Francis, 2011. p. 203. ISBN 1-136-88432-7.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]