Mosg Ibn Marwan

Oddi ar Wicipedia
Mosg Ibn Marwan
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Dechrau/Sefydlu1324 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthAl Tuffah, Dinas Gaza Edit this on Wikidata

Mae Mosg Ibn Marwan (Arabeg: جامع ابن مروان‎, neu Jami' Ibn Marwan) yn Fosg o gyfnod y Mamluk sydd wedi ei leoli yn Gaza yng nghymdogaeth Tuffah.[1] Mae mewn ardal gymharol ynysig - y tu allan i weddill y ddinas, gyda mynwent o'i gwmpas.[2] Y tu mewn mae beddrod dyn sanctaidd o'r enw Sheikh Ali ibn Marwan a oedd yn perthyn i deulu Hasani. Daeth y teulu Hasani o Foroco ac ymgartrefu yn Gaza lle bu farw Ibn Marwan ym 1314 CE. Enwir y fynwent hefyd ar ôl Ibn Marwan.

Adeiladwyd y mosg ei hun ym 1324 ac mae'n cynnwys betws (neu oratory yn Saesneg) a chredir bod cerrig y beddrodau yn y fynwent gyfagos yn cynnwys arysgrifau hanesyddol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sharon, 2009, p. 31
  2. Palestine Oriental Society, 1929, p.221.
  3. Sharon, 2009, pp. 35, 92-94, 205 -207

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]