Morris Davies (golygydd)
Morris Davies | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1796 Mallwyd |
Bu farw | 10 Medi 1876 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awdur, cerddor |
Cerddor, awdur ac emynwr o ardal Ffestiniog oedd Morris Davies (Hydref 1796 – 10 Medi 1876). Roedd ganddo gryn dipyn o ddiddordeb mewn: llenyddiaeth, barddoni a chelfyddydau perfformio. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Dinas Mawddwy, a fe gafodd yr Ysgol Sul ddylanwad mawr arno hefyd.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Morris Davies yn fab i ffarmwr o ardal Ffestiniog ond yn annhebyg i'w dad, nid oedd ganddo ddiddordeb yn y byd amaethyddiaeth. Yn 1819 penderfynodd ymroi i waith ysgolfeistr, ac aeth i addysgu yn un o ysgolion William Owen ger Y Trallwng. Wedi chwe blynedd yno, symudodd i Lanfyllin hyd at 1836. Gwnaed ef yn glerc i gwmni cyfreithiol yn 1836, a hynny ger Llanfyllin. Yna, yn 1849 aeth ymlaen i Fangor i barhau i fod yn glerc. Yn wir, teithiwr o fri oedd Morris Davies ond serch hynny, llwyddodd i gyflawni darnau llenyddiaeth a cherddoriaeth o safon uchel iawn. Roedd ei waith yn cynnwys cyfieithiadau o lyfrynau crefyddol, darnau o Y Traethodydd a'r Gwyddoniadur.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Y Traethodydd, 1877, 217-44, 359-75 (gan Daniel Rowlands, Bangor, yn helaeth iawn, ac yn cynnwys atgofion Morris Davies ei hunan);
- Y Geninen (Gŵyl Ddewi), 1891, 30-7;
- J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid (1945), 1945.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "DAVIES, MORRIS (1796 - 1876), llenor, awdurdod ar emynyddiaeth, a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-26.