Moronobu

Oddi ar Wicipedia
Moronobu
Ganwyd1618 Edit this on Wikidata
Hota Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1694 Edit this on Wikidata
Edo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethdarlunydd, ukiyo-e artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBeauty Looking Back Edit this on Wikidata
Arddullbijinga, Shunga, meisho-e, peintio genre, book illustration, nikuhitsu-ga, ukiyo-e, sumizuri-e Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluKyoto Edit this on Wikidata
MudiadHishikawa school Edit this on Wikidata
PlantHishikawa Morofusa Edit this on Wikidata
Llun shunga gan Moronobu. Toriad pren, inc du ar bapur Siapanaidd. Tua diwedd 1670au-dechrau'r 1680au.

Arlunydd Siapaneaidd oedd Hishikawa Moronobu (Siapaneg: 菱川師宣, Hishikawa Moronobu) (161825 Gorffennaf 1694) a adnabyddir fel un o arloeswyr y mudiad celf ukiyo-e yn y 1670au, yn enwedig am ei ddefnydd o brintiau bloc pren. Cydnabyddir hefyd fod Moronobu yn arlunydd shunga (darluniau erotig) blaengar.

Brodor o ardal Hoda ar Fae Edo oedd Moronobu (sylwer mai 'Hishikawa' yw'r enw teuluol, nid 'Moronobu'). Symudodd i Edo ei hun ac astudiodd dan artist a adnabyddir fel y Meistr Kambun.

Cynhyrchodd Moronobu luniau o sawl math, ond fe'i cofir yn bennaf fel sefydlydd pwysicaf yr arddull ukiyo-e. Ond yn wahanol i artistiaid ukiyo-e diweddarach, mae'r cyfan o waith Moronobu yn ddarluniau inc du a gwyn sy'n amlygu sensitifrwydd arbennig a phurdeb ffurf.

Mae ei waith yn cynnwys sawl enghraifft o luniau erotig - abuna-e (printiadau risqué) - sydd a rhan bwysig yn hanes yr arddull shunga ond sydd, gydag ambell eithriad, yn llai agored rywiol ac ecsblisit na'r gweithiau shunga diweddarach.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato