Morgi rhesog
| Morgi rhesog Amrediad amseryddol: Mïosen uwch i'r presennol | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carcharhiniformes |
| Teulu: | Carcharhinidae Péron & Lesueur, 1822 |
| Genws: | Galeocerdo |
| Rhywogaeth: | G. cuvier |
| Enw deuenwol | |
| Galeocerdo cuvier Péron & Lesueur, 1822 | |
| Dosbarthiad | |
| Cyfystyron | |
|
Squalus cuvier François Péron a Charles Alexandre Lesueur, 1822 | |
Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier[1]) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 tr 5 mod) o hyd.[2] Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.[3]

Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid.[3][4] Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.[5]
Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ITIS Report – Galeocerdo cuvier". Integrated Taxonomic Information System!. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
- ↑ Froese, Rainer and Pauly, Daniel, eds. (2011). "Galeocerdo cuvier" in FishBase. Fersiwn Gorffennaf 2011.
- 1 2 Ritter, Erich K. (15 December 1999). "Fact Sheet: Tiger Sharks". Shark Info.
- ↑ "Incredible moment killer whales hunt and kill a tiger shark". Daily Mail. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-23. Cyrchwyd 2019-01-15.
- ↑ Simpfendorfer, C. (2009). "Galeocerdo cuvier"[dolen farw]. Rhestr Goch yr IUCN. IUCN. 2009: e.T39378A10220026. doi:10.2305/IUCN.UK.2009-2.RLTS.T39378A10220026.en. Retrieved 15 Ionawr 2018.
- ↑ Knickle, Craig. "Tiger Shark Biological Profile". Florida Museum of Natural History Ichthyology Department.