Morgan Stoddart

Oddi ar Wicipedia
Morgan Stoddart
Ganwyd23 Medi 1984 Edit this on Wikidata
Trealaw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Pontypridd, Treorchy RFC Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig yw Morgan Stoddart (ganed 23 Medi 1984 yn Nhrealaw, Cymru). Mae fel arfer yn chwarae yn safle'r cefnwr. Ar hyn o bryd, mae'n chwarae i Sgarlets yn y Gynghrair Geltaidd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Treorci[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd Stoddart ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda Chlwb Rygbi Treorci, ac ymunodd gyda'r tîm oedolion pan yr oedd yn 18 mlwydd oed. Sgoriodd dros 250 o bwyntiau i'w dîm yn ystod tymor 2003-2004, wrth chwarae yn safle'r maswr.

Pontypridd[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Stoddart yn safle'r cefnwr i dîm Pontypridd yn ystod tymor 2004–2005, gan greu enw i'w hun fel chwaraewr ymosodol iawn. Sefydlodd ei hun fel cefnwr yn Heol Sardis gan chwarae rhan bwysig ym muddugoliaeth Bontypridd yng Nghwpan Her URC yn erbyn Castell Nedd yn 2006.

Sgarlets Llanelli[golygu | golygu cod]

Arwyddodd Stoddart gytundeb proffesiynol efo'r Sgarlets yn 2006. Enwyd Stoddart fel Chwaraewr y Flwyddyn Prifadran Cymru am ei gyfraniad i dîm Llanelli yn ystod tymor 2006-2007.

Tîm Cenedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Morgan Stoddart ei gêm gyntaf i dîm rygbi cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 2007, yn y gêm yn erbyn De'r Affrig. Chwaraeodd yn safle'r cefnwr gan wneud argraff arbennig fel chwaraewr dawnus, drwy greu cais cyntaf Cymru a sgorio'r ail gais. Galwyd arno eto gan ei wlad i chwarae ar yr asgell dde ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]