Neidio i'r cynnwys

Morfudd Maesaleg

Oddi ar Wicipedia
Morfudd Maesaleg
GanwydMorfudd Lloyd Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 2022 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtelynor, athro, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
PriodMorien Phillips Edit this on Wikidata
PerthnasauMeinir Lloyd Edit this on Wikidata

Athrawes, telynores a chyfansoddwr o ardal Bangor oedd Morfudd Maesaleg neu Morfudd Phillips wedi priodi, a Morfudd Lloyd cyn hynny, (9 Tachwedd 1933 – 25 Mai 2022).[1] Roedd hi'n wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau Eisteddfodau, Gwyliau Cerdd Dant a chyngherddau yng Nghymru ers y 1950au, fel hyfforddwr, arweinyddes a thelynores. Bu'n rhan o gynyrchiadau gyda Cwmni Theatr Cymru yn ogystal â bod yn aelod gwerthfawr o Gymdeithas Cerdd Dant Cymru. Defnyddiodd yr enw barddol "Morfudd Maesaleg". Bu'n arweinyddes ar sawl côr a pharti canu megis Parti'r Ffynnon [1963][2] a Rhianedd Môn [1970au],[3] gan ryddhau recordiau poblogaidd rhwng y 1960au a'r 1980au, yn ogystal â chyfeilio ar y delyn ar sawl record arall, gan gydweithio gydag unigolion nodedig fel Aled Lloyd Davies, a’i chwaer y gantores Meinir Lloyd.[4]

Fe'i ganwyd yn Sir Ddinbych, ond bu'r teulu yn byw yn ardal Treborth, Bangor a Phorthaethwy wedi hynny.

Bu'n rhan o'r cynyrchiadau Dawn Deud [1969] a Cofio Cynan [1970] gyda Cwmni Theatr Cymru.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd â'r actor a'r darlithydd drama Morien Phillips yn Rhuthun ym 1959 ac mae ganddynt ddwy ferch, Mari a Lowri.[1]

Bu farw'n "sydyn ond yn dawel" yng nghartref Y Rhos, Malltraeth ar y 25 Mai 2022[1] yn 89 oed.

Talodd y digrifwr a'r bardd Peter Hughes Griffiths [ei brawd yng nghyfraith] deyrnged iddi, mewn soned:[5]

COFIO MORFUDD
"Ers dyddiau meithrin crefft Maesaleg gynt
Byrlymodd dawn y cerddor ynot ti,
Datblygaist y ddawn honno ar dy hynt
A'i rhannu wnest mor barod gyda ni.
Cystadlu a beirniadu ym mhob Gŵyl
Wrth osod a hyfforddi, gwnest dy ran,
A chreu diwylliant cyfoes yn llawn hwyl
Yn ddeuawd gyda Morien yn y man.
Mae nodau Parti'r Ffynnon eto'n glir,
Bydd uniad lleisiol sain Rhiannedd Môn
Yn goffadwriaeth fyw am gyfnod hir,
Tra pery'r gân, amdanat ti bydd sôn.
Rhoi, rhoi yn hael o'th doniau'n llawn,
Mae Cymru heddiw'n dlotach heb dy ddawn."
                                            Peter Hughes-Griffiths

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "Click here to view the tribute page for Morfudd PHILLIPS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Medi 2026.
  2. ↑ (yn en) Parti'r Ffynnon - Carolau Nadolig, 1973, https://www.discogs.com/release/7659055-Partir-Ffynnon-Carolau-Nadolig, adalwyd 13 Medi 2026
  3. ↑ (yn en) Rhianedd Môn - Rhianedd Môn, 1982, https://www.discogs.com/release/12012902-Rhianedd-M%C3%B4n-Rhianedd-M%C3%B4n, adalwyd 13 Medi 2026
  4. ↑ "Parti Menlli". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Medi 2026.
  5. ↑ "Gwefan Facebook Cymdeithas Cerdd Dant Cymru".