Morda
Gwedd
| Math | pentref |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Oswestry Rural |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.843°N 3.058°W |
| Cod OS | SJ287278 |
![]() | |
- Erthygl am y pentref yw hon. Am y cymeriad yn chwedl Taliesin gweler Hanes Taliesin. Gweler hefyd Afon Morda.
Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Morda.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Oswestry Rural yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Llifa Afon Morda, un o ledneintiau Afon Hafren, heibio i'r pentref gan roi iddo ei enw. Fe'i lleolir tua milltir a hanner i'r de o Groesoswallt. Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021
