Molokaʻi

Oddi ar Wicipedia
Molokaʻi
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasKaunakakai Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,345 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−10:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Hawaii Edit this on Wikidata
SirMaui County, Kalawao County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd260 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,961 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau21.135°N 157.01°W Edit this on Wikidata
Hyd60 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys yn ynysfor Hawäi yw Molokaʻi neu Molokai, sydd hefyd yn dwyn yr enw "Yr Ynys Gyfeillfar". Mae'n 61 wrth 16 km (38 wrth 10 milltir) o faint ar ei hiraf ac mae ganddi 673.4 km2 (260 millitir sgwâr) o dir y gellir ei ddefnyddio, sy'n golgyu mai hi yw'r bumed ynys fwyaf o brif ynysoedd Hawäi a'r 27ain ynys fwyf yn yr Unol Daleithiau. Saif i'r dwyrain o Oʻahu ar draws 40 km (25 milltir) Sianel Kaiwi ac i'r gogledd o Lānaʻi a Sianel Kalohi rhyngddynt.

Mae'r ynys yn adnabyddus am dyfu pinafalau, ffermio gwartheg, twristiaeth a'r datblygiadau gan Molokai Ranch ar y rhan fwyaf o'r ynys. Gall y trigolion ac ymwelwyr i ben gorllewinol Molokaʻi weld goleuadau Honolulu ar Oʻahu gyda'r nos a Lānaʻi a Maui gyfagos o unrhyw bwynt ar hyd arfordir deheuol yr ynys. Yn Swydd Kalawao ar Benrhyn Kalaupapa ar arfordir y gogledd, sefydlwyd aneddiadau ym 1866 i drin pobl wahanglwyfus mewn cwarantin a pharhaodd hyn tan 1969. Parc Hanesyddol Cenedlaethol Kalaupapa sydd yn gyfrifol am warchod y swydd a'r ardal gyfan erbyn hyn.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Dwyrain[dolen marw] Molokaʻi gyda rhan o Kamakou a Gwarchodfa Coedwig Molokaʻi.

Datblygodd Molokaʻi o ddau losgfynydd tarian, y naill o'r enw llosgfynydd Dwyrain Molokaʻi a'r llall Gorllewin Molokaʻi, sy'n llai o faint. Kamakou yw'r pwynt uchaf ar Ddwyrain Molokaʻi, sydd yn 1,510 m (4,970 troedfedd). Erbyn heddiw, gweddill hanner deheuol y mynydd gwreiddiol yw Dwyrain Molokaʻi, yn union fel Mynyddoedd Koʻolau ar Oʻahu. Credir i'r hanner gogleddol gwympo tua 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl a'i fod yn gorwedd yn faes malurion ar wasgar ar hyd gwaelod y Môr Tawel.[1] Mae gwedill y llosgfynydd ar ynys yn cynnwys clogwyni môr uchaf y byd.[2] Ar lan ddeheuol Molokaʻi mae'r ymylriff hiraf yn yr UD o bron i 40 km (25 milltir).[3]

Rhan o dalaith Hawäi yw Molokaʻi sy'n sefyll yn Swydd Maui, heblaw am Benrhyn Kalaupapa o dan weinyddiaeth Swydd Kalawao. Mae Swydd Maui yn cynnwys Maui, Lānaʻi a Kahoʻolawe yn ogystal â Molokaʻi. Kaunakakai yw'r dref fwyaf ar yr ynys, ac mae'n un o ddau borthladd bach arni. Yng ngorllewin Molokaʻi, mae'r maes awyr. Rhanna Swyddfa Gyfrifiad yr Unol Daleithiau yr ynys yn dair ardal at ddiben y cyfrifiad: Census Tract 317 a Census Tract 318 yn Swydd Maui, Hawäi a Census Tract 319 yn Swydd Kalawao, Hawäi. Yng ngyfrifiad 2010, 7,345 oedd y boblogaeth gyfan, sydd yn byw ar 674 km2 (260 millitir sgwâr) o dir. Mae Molokaʻi wedi'i gwahanu o Oʻahu yn y gorllewin gan Sianel Kaiwi, o Maui yn y de-ddwyrain gan Sianel Pailolo a o Lānaʻi yn y de gan Sianel Kalohi.

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Parc[dolen marw] Traeth Bae Halawa, sydd ar ben dwyreiniol pellaf Molokaʻi

Dwy brif ardael ddaeryddol sydd i Molokaʻi. Mae'r hanner gorllewinol isel yn sych iawn ac mae'r pridd yn brin yn sgil arferion rheoli tir gwael a oedd yn gadael i eifr orbori yno. Mae diffyg llystyfiant ar wyneb y tir a mae coed kiawe (Prosopis pallida) anfrodorol yn gorchuddio bron y ardal gyfan. Twyni Moʻomomi yw un o'r ardaloedd naturiol brin sydd ar ôl, sy'n rhan o warchodfa cymdeithas elusennol y Nature Conservancy.

Llwyfandir uchel yw hanner dwyreiniol yr ynys ac mae'n codi hyd at 1,500 m (4,900 troedfedd) ar gopa Kamakou. Mae hwn yn cynnwys 11 km2 (2,7774 erw; 4 milltir sgwâr) Gwarchodfa Coedwig Molokaʻi.[4] Mae'r hanner dwyreiniol o dan fforestydd gwlyb gwyrdd sy'n cael mwy na 7,600 mm (300 modfedd) o law bob blwyddyn. Yn y fforestydd uchel hyn mae coed ʻōhiʻa lehua (Metrosideros polymorpha) brodorol yn ogystal â phlanhigion a chreaduriaid endemig yn yr islawr. Mae'r mwyafrif o'r ardael yng ngwarchodfeydd Kamakou a Pelekunu y Nature Conservancy. O dan 1,200 m (4,000 troedfedd), mae'r rhan fwyaf o'r planhigion yn rhai ecsotig, gan gynnwys y gwafa mefus (Psidium littorale), coed ewcalyptws (Eucalyptus spp.) a chypreswydd (Cupressus spp.). Cyflwynwyd ceirw chital (Axis axis) a moch gwyllt (Sus scrofa) i'r fforestydd brodorol, lle maent yn ffynnu, gan ddinistrio planhigion brodorol, ehangu ardal planhigino ecsotig trwy aflonyddu arnynt a'u hadau a bygwyth pryfed endemig. Ger copa Kamakou, mae cors unigryw Pepeʻopae, lle mae ʻōhiʻa bach a phlanhigion eraill dros y tir gwlyb.

Mae Molokaʻi yn gatref i nifer mawr o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid endemig. Er hynny, mae llawer o'i rhywogaethau, gan gynnwys yr olomaʻo (Myadestes lanaiensis), y kākāwahie (Paroreomyza flammea) ac ʻōʻō Molokaʻi (Moho bishopi) wedi'u difodi. Cleren ddiadain a llawer o bryfed endemig eraill sy'n byw ar yr ynys.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd hanesyddwyr yn credu i bobl frodorol o Ynysoedd Marquesas anheddu Molokaʻi yn gyntaf tua 650 CC. Er hynny, mae astudiaeth yn 2010 a ddefnyddiodd ddyddio radio-carbon trachywir diwygiedig yn seiliedig ar samplau mwy dibynadwy wedi cadarnhau bod gwladychu Ynysoedd Marquesas yng nghyfnod gwladychu dwyrain Polynesia yn llawer diweddarach. Mae'n sôn am ddau gyfnod byrrach: y cynharaf yn Ynysoedd y Gymdeithas tua 1025–1120, bedair canrif yn ddiweddarach na'r hyn na'r gred wreiddiol; ac yna ar ôl 70–265 o flynyddoedd, bu i'r gwladychwyr ymwasgaru ar yr un pryd i'r ynysoedd eraill tua 1190–1290.[5] Daeth ymfudwyr wedyn o Tahiti ac ynysoedd eraill yn ne'r Môr Tawel. Er i James Cook gofnodi gweld Molokaʻi yn 1778, George Dixon, swyddog o Lynges Brenhinol Prydain, oedd y morwr cyntaf o Ewrop i ymweld â'r ynys yn 1786.[6] Daeth y dylanwad Ewropeaidd arwyddocaol cyntaf ym 1832 pan sefydlwyd cenhadaeth Brotestannaidd yn Kaluaʻaha ar East End gan y Parchedig Harvey Hitchcock. Yn y 1800au hwyr, cododd y Brenin Kamehameha V dŷ gwyliau yn Kaunakakai a gorchymyn i bobl blannu dros 1,000 o goed cnau coco yn Llwyn Coed Cnau Coco Kapuaiwa.[7]

Gwladfa i'r gwahanglwyfus[golygu | golygu cod]

Un o'r clefydau Ewrasaidd a gyflwynwyd i ynysoedd Hawäi oedd y gwahanglwyf (neu glefyd Hansen). Daeth gyda chyrhaeddiad y masnachwyr, y morwyr, y gweithwyr ac eraill a ddeuai o gymdeithasau lle roedd clefydau felly yn endemig. Oherwydd diffyg imiwnedd yr ynyswyr i'r clefydau newydd hyn, bu i lawer gael eu heintio a marw o'r frech wen, y geri a'r pas, yn ogystal â'r gwahanglwyf. Roedd y planwyr siwgr yn pryderu am yr effeithiau ar eu gweithluoedd ac felly rhoesant bwysau ar y llywodraeth i weithredu a rheoli ymlediad y gwahanglwyf.

Derbyniodd y llywodraeth ddeddf reoli a oedd yn gorfodi pobl wahanglwyfus mewn cwarantîn. Sefydlodd Kalawao ar benrhyn anghysbell Kalaupapa ar ochr ogledd Molokaʻi ac wedyn defnyddiodd Kalaupapa fel safle gwladfa i'r gwahanglwyfus o 1866 hyd 1969. Oherwydd gwell hinsawdd a myndediad i'r môr, Kalaupapa ddaeth yn brif gymuned i'r dioddefwyr. Datblygwydd ysbyty ymchwil yn Kalawao. Ar eu hanterth ychydig ar ôl troad y 20g, roedd 1100 o gleifion yn y gwladfeydd hyn.

Dros y degawdau, cyfanswm o fwy na 8500 o oedolion a phlant o bob cwr o ynysoedd Hawäi a gafodd ddiagnosis o'r gwahanglwyf a'u halltudio i'r wladfa gan llywodraeth Hawäi, yn ogystal â chael eu datgan yn feirwon. Bu i hyn barhau ar ôl i'r deyrnos ddod yn diriogaeth i'r Unol Daleithiau. Ni châi'r cleifion adael y lle na chael ymwelwyr ac bu raid iddynt fyw yno am oes. Yn y 21g, nid oes pobl sy'n weithredol wahanglwyfus ar yr ynys. Mae hyn wedi cael ei rheoli trwy feddyginiaeth ond dewisodd rhai o'r cyn-gleifion fyw yn y wladfa ar ôl iddi gau'n swyddogol.[8][9]

Roedd Damien de Veuster, offeiriad o wlad Belg o Gynulleidfa Calonnau Sanctaidd yr Iesu a Mair, yn gweithio fel cenhadwr am 16 mlynedd yng nghymunedau dioddefwyr y gwahanglwyf. Daeth Joseph Dutton, a oedd wedi bof yn 13eg Gatrawd Gwŷr Traed Gwirfoddol Wisconsin yn ystod Rhyfel Cartref America ac a oedd wedi cael tröedigaeth i Babyddiaeth ym 1883, i Molokaʻi ym 1886 i helpu de Veuster a gweddill y boblogaeth wahanglwyfus. Bu yno tan ei farwolaeth ym 1931. Daeth Marianne Cope o Chwiorydd Sant Ffransis o Syracuse, Efrog Newydd â chwech o'i Chwiorydd i weithio yn Hawäi gyda chleifion gwahanglwyfus yn hwyr yn y 19g, gan weithio ar Molokaʻi hefyd. Mae de Veuster a Cope wedi cael eu canoneiddio'n seintiau gan Eglwys Gatholig Rhufain am eu gwaith elusennol a'u hymroddiad i'r rhai claf. Ym mis Rhadfyr 2015, agorwyd achos Dutton yn swyddogol hefyd gan ennill iddo deitl "Gwas Duw".

Economi[golygu | golygu cod]

Gan ddechrau ym 1897, prynwyd y rhan fwyaf o ben gorllewinol yr ynys oddi wrth y Hawaiaid gan Molokai Ranch er mwyn ffermio gwartheg. O 1923 hyd 1985 roeddent yn prydlesu miloedd o erwau o'u tir i cynhywchyr pinafalau a bu'r diwydiant pinafalau'n ffynnu ar yr ynys a denu ymfudwyr o Japan a'r Philipinau i weithio am gyflog isel. Er hynny, ers tua diwedd y 20g, mae'r diwydiant pinafalau wedi dioddef dros Hawäi.

Dros y blynyddoedd mae cwmi Molokai Ranch wedi gweithredu fel datblygwr drwy sefydlu gwestai a chyfleusterau tebyg i dwristiaid ar eu tir. Yn 2007, trefnodd trigolion fudiad "Save Laʻau Point" er mwyn gwrthwynebu cais Molokai Ranch i ehangu ei safleodd gwyliau.[10] O ganlyniad, ar 24 Mawrth 2008, penderfynodd y cwmni, sef cyflogwr mwyaf yr ynys ar y pryd, gau ei safleoedd gwyliau i gyd, gan gynnwys y gwestai, sinema, y bwytai a'r cwrs golff ac i ddiswyddo 120 o weithwyr.[11]

Oherwydd natur gwledig, amaethyddol Molokaʻi, mae ganddi'r cyfradd ddiwethdra uchaf yn Hawäi. Traeon o'r trigolion sy'n defnyddio stampiau bwyd.[12] Yn 2014, cynhyrchu hadau i gwmnïau Monsanto a Mycogen Seeds, oedd diwydiant mwyaf yr ynys, gwaith sy'n cynnwys cynhyrchu hadau wedi'u haddasu'n enetig.[12]

Twristiaeth[golygu | golygu cod]

Arwydd[dolen marw] i ymwelwyr i Molokaʻi ar y ffordd allan o Faes Awyr Molokaʻi

Er nad yw twristiaeth ddim cymaint ar Molokaʻi ag mae ar rai o ynysoedd eraill Hawäi, daw rhyw 1,000 o ymwelwyr, ar gyfartaledd, i Molokaʻi bob dydd.[13] Ers blynyddoedd mae trigolion Molokaʻi wedi gwrthwynebu datblygwyr preifat sydd am gynyddu'r diwydiant twristiaeth yno. Mae nifer cyfyngedig o leodd i aros; yn 2014, dim ond un gwesty oedd ar agor ar yr ynys. Mae'r mwyafrif o dwristiaid yn aros mewn rhandai a thai.

Bob blwyddyn, mae cylchgrawn y National Geographic Traveler a chanolfan y National Geographic Center for Sustainable Destinations yn gwneud arolwg Destination Scorecard, gyda chymorth Prifysgol George Washington. Yn 2007, adolygodd panel o 522 o arbenigwyr mewn twristiaeth gynaliadwy a stiwardiaeth gyrchfannau 111 o ynysoedd ac ynysforeodd cyfannedd dethol o gwmpas y byd. Daeth Molokaʻi yn 10fed ymhlith y 111 o gyrchfannau. Soniodd yr arolwg am ei thirwedd drofannol syfrdanol; ei stiwardiaeth amgylcheddol; ei thraddodiadau Hawaiaidd cryfion (fel mana'r ynys) a'r croeso sydd ganddi i ymwelwyr. Roedd yr ynysoedd cyfagos, Hawäi, Kauaʻi, Maui ac Oʻahu yn rhif 50, 61, 81 a 104 ar y rhestr.[14]

Credir mai o Molokaʻi y mae'r hula yn tarddu. Cynhelir gŵyl Molokaʻi Ka Hula Piko ar yr ynys bob blwyddyn.[15]

Gellir cyrraedd Molokaʻi ar awyren neu ar long. Mae awyrennau'n hedfan i Molokaʻi bob dydd o ynysoedd eraill Hawäi, gan gynnwys Oahu (Honolulu a Kalaeola), Maui (Kahului) a Hawäi (Kona) gyda chwmnïoedd Mokulele Airlines, Makani Kai Air, Paragon Air a Hawaiian Airlines.[16][17][18] Mae fferi'n gadael ddwywaith y dydd rhwng Molokaʻi a Harbwr Lahaina, Maui.[19]

Isadeiledd[golygu | golygu cod]

Gofal iechyd[golygu | golygu cod]

Ar ynys Molokaʻi mae Ysbyty Cyffredinol Molokaʻi, sydd ar agor trwy'r dydd bob dydd.

Addysg[golygu | golygu cod]

Mae gan system ysgolion gwladol yr ynys bedair ysgol cynradd, un ysgol ganol ac un ysgol uwchradd. Ceir coleg cymunedol ac ysgol ganol breifat hefyd.[20][21]

Priffordd[golygu | golygu cod]

Gellir croesi'r ynys ar un ffordd fawr sydd yn mynd dros y tir o'r dwyrain i'r gorllewin (Highway 450 a 460). Esgair yw Highway 470 hyd at fynyddoedd Swydd Kalawao a Phenrhyn Kalaupapa. Dros y tir, dim ond ar lwybrau cerdded neu ar gefn mul mae modd cyrraedd Kalaupapa, felly mae'r rhan fwyaf yn cyrraedd yr ardal ar y môr.

Parciau[golygu | golygu cod]

Mae llawer o barciau ac ardaloedd dan warchodaeth ar yr ynys, gan gynnwys Parc Swydd Palaau, Parc Traeth Kiowea, Gwarchodfa Fywyd Gwyllt Genedlaethol Kakahaia, Gwarchodfa Coedwig Molokaʻi Forest, Gwarchodfa Pelekunu, Parc Traeth George Murphy, Parc Traeth Halawa a Pharc Traeth Papohaku, sef tair milltir o draeth digyffwrdd yn y rhan o fewn Swydd Maui. Erbyn heddiw fe warchodir Swydd Kalawao gan Barc Hanesyddol Cenedlaethol Kalaupapa.[22][23]

Pobl nodedig[golygu | golygu cod]

Royalty[golygu | golygu cod]

Trefi a phentrefi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hawaiian landslides have been catastrophic Archifwyd 2009-05-27 yn y Peiriant Wayback., Monterey Bay Aquarium Research Institute
  2. Culliney, John L. (2006) Islands in a Far Sea: The Fate of Nature in Hawaii. Honolulu: University of Hawaii Press. p. 17.
  3. "Quantitative morphology of a fringing reef tract from high-resolution laser bathymetry: Southern Molokai, Hawaii", Bulletin - Geo Science World
  4. Molokai Forest Reserve — Department of Land and Natural Resources
  5. Janet M. Wilmshurst; Terry L. Hunt; Carl P. Lipo; Atholl J. Anderson. "High-precision radiocarbon dating shows recent and rapid initial human colonization of East Polynesia". PNAS 108 (5): 1815–20. doi:10.1073/pnas.1015876108. http://www.pnas.org/content/108/5/1815.full. Adalwyd 26 Hydref 2015.
  6. "Molokai History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-29. Cyrchwyd 2017-01-07.
  7. "Molokai History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-16. Cyrchwyd 2017-01-07.
  8. "Kalaupapa National Historical Park - Hansen's Disease Patients at Kalawao and Kalaupapa Archifwyd 2013-05-16 yn y Peiriant Wayback. (U.S. National Park Service)." U.S. National Park Service - Experience Your America. Web. 19 Nov. 2009.
  9. "Kalaupapa, Molokai, Hawaii - Father Damien". VisitMolokai.com web site. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-30. Cyrchwyd 2009-09-29.
  10. title= |work= Star Bulletin | Business | date=14 January 2007
  11. "Molokai Ranch: A year after closure, times are hard but spirit is alive", Maui News
  12. 12.0 12.1 "Molokai has the Most to Lose but the Least Say in the GMO Debate".
  13. "Visit Molokai".
  14. Tourtellot, Jonathan B. (November–December 2007). "Destinations Rated: Islands". National Geographic Traveler: 108–127. http://traveler.nationalgeographic.com/2007/11/nd07placesratedislands.pdf. Adalwyd 2017-02-18.
  15. Molokai Ka Hula Piko, Aloha-Hawaii website
  16. "Molokai Airport".
  17. "Mokulele Airlines Schedule". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-27. Cyrchwyd 2017-01-07.
  18. "Getting to Molokai". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-12. Cyrchwyd 2017-01-07.
  19. "Molokai Ferry". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-10. Cyrchwyd 2017-01-07.
  20. "Molokai Schools". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-12. Cyrchwyd 2017-01-07.
  21. "Akaula School". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-01. Cyrchwyd 2017-01-07.
  22. "Kalaupapa National Historic Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-06. Cyrchwyd 2017-01-07.
  23. "Papohaku Beach Park". Go Hawaii. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-28. Cyrchwyd 2017-01-07.
  24. Gavan Daws, Holy Man: Father Damien of Molokai, Honolulu: University of Hawaii Press, 1984, pp. 89-92