Mohamed Ghannouchi
Mohamed Ghannouchi | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
18 Awst 1941 ![]() Sousse ![]() |
Dinasyddiaeth |
Tiwnisia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
President of Tunisia, Prime Minister of Tunisia, Finance Minister of Tunesia, Industry Minister of Tunisia ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Annibynnwr ![]() |
Mohamed Ghannouchi (Arabeg: محمد الغنوشي; ganed 18 Awst 1941 yn Sousse) oedd Prif Weinidog Tiwnisia o 1999 hyd 2011. Am gyfnod byr bu'n Arlywydd dros dro. Yn ogystal mae'n aelod o Senedd Tiwnisia dros yr Rassemblement constitutionnel démocratique (RCP).
O 1992 hyd 1999, bu'n Weinidog Cydweithio Rhyngwladol a Buddsoddiad Tramor, ac o 1999 hyd 2011 bu'n Brif Weinidog Tiwnisia hyd y coup a ddaeth â rheolaeth Zine el-Abidine Ben Ali i ben ar 14 Ionawr 2011 fel canlyniad i'r brotestiadau eang yn erbyn y llywodraeth a ddechreuodd yn Sidi Bouzid ganol mis Rhagfyr 2010. Ar ôl tri diwrnod fel arlywydd dros dro dychwelodd i'w hen swydd o brif weinidog yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' newydd. Ymddiswyddodd ar 27 Chwefror 2011 yn sgîl protestiadau pellach.