Model biofeddygol

Oddi ar Wicipedia

Mae'r model biofeddygol sy'n gyffredin yn niwylliannau'r gorllewin wedi esblygu o'r cynsail o 'gadw'r gweithlu'n ffit i weithio'n gynhyrchiol’ trwy drin anhwylderau'n effeithiol wrth iddyn nhw ymgodi, ac er bod ymarfer meddygol modern yn dechrau mabwysiadu llawer o nodweddion mwy holistig yr ymagwedd WHO, mae'n dal i fod yn seiliedig i raddau helaeth ar ‘ddiagnosio a thrin’ ac ymagwedd sefydliadol a danategir drwy gymhwyso'r dull gwyddonol a phrofion clinigol, ac mae sector anferth o'r economi'n dibynnu ar y model sefydliadol hwn. Gwelir cryfderau'r model biofeddygol yn ei sail wyddonol – mae'n gymharol hawdd adrodd am, monitro a mesur cynnydd yn nhermau'r niferoedd o farwolaethau a gwellhad, y niferoedd o oriau gweithio a gollir neu a arbedir. Caiff triniaethau eu cyfiawnhau ar sail y dystiolaeth wrthrychol hon a'r gost gymharol. Gellir cynnal gwerthusiad o'r gost yn erbyn y budd mewn ffordd syml, fel y bydd yn haws torri i lawr ar wariant gwastraffus.

Gwelir gwendidau'r ymagwedd fiofeddygol yn ei methiant i fynd i'r afael â lles cydol oes. Felly byddir yn mynd i'r afael ag ymarferion gwael ddim ond yn nhermau'r maen prawf ‘ffitrwydd i weithio’. Rhoddir ond ychydig o werth i ymagwedd holistig at iechyd, meddygaeth draddodiadol neu therapïau amgen, i raddau helaeth oherwydd natur oddrychol, anecdotaidd y sail dystiolaethol i'r dulliau hyn. Gellir canfod bod cleifion yn dioddef yn seicolegol o'r ymagwedd amhersonol a sefydliadol hon, ac mae llawer yn ceisio therapyddion amgen.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)