Neidio i'r cynnwys

Mitrovica

Oddi ar Wicipedia
Mitrovica
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth71,601 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Tirana, Elbasan, Shëngjin, Vučitrn, Kendari, Korçë, İnegöl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMitrovica Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Cosofo Cosofo
Arwynebedd350 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr500 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.8833°N 20.8667°E Edit this on Wikidata
Cod post40000 Edit this on Wikidata
Map

Mae Mitrovica (Albaneg: Mitrovicë, Serbeg: Kosovska Mitrovica, Косовска Митровица) yn ddinas yng ngwladwriaeth Cosofo ar lannau'r afonnydd Ibar a Sitnica. Hi yw dinas weinyddol Cyngor Dosbarth Mitrovica.

Yn dilyn Argyfwng Gogledd Cosofo yn 2013, sefydlwyd bwrdeisdref Gogledd Mitrovica ar gyfer y mwyafrif Serbeg sy'n byw yn rhan honno'r ddinas. Gan hynny, rhannwyd y ddinas yn ddwy uned weinyddol, ond ill dau o fewn fframwaith gyfreithiol Cosofo.

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Mitrovica oedd 84,235. Roedd 71,909 o'r rheini yn ochr ddeheuol (mwyafrifol Albaneg) y ddinas, ac yng nghyfrifiad 2011, 12,326 yn y gogledd[1].

Daw enw'r ddinas o'r enw Groeg, Demetrius. Mae'n debyg y cafodd ei enwi ar ôl yr eglwys Fesantin o'r g8, St. Demetrius, a adeiladwyd ger caer Zvecan, ychydig uwchben Mitrovica fodern, yn anrhydedd Sant Demetrius o Thessaloniki. Gelwir y ddinas D(i)mitrovica nes iddo syrthio o dan y rheolaeth Otomanaidd.[2] Yn 1660, soniodd y teithiwr Otmanaidd, Evliya Çelebi,am y ddinas am y tro cyntaf gyda'r enw Mitrovica.[3][4]

Ar ôl marwolaeth yr Arlywydd Tito, roedd yn rhaid i bob un o'r rhannau cyfansoddol Iwgoslafia gael un lle wedi ei henwi gyda'r gair "Tito" ynoddo. O ganlyniad, ail-enwyd y ddinas yn Titova Mitrovica (Титова Митровица) yn Serbeg neu Mitrovica e Titos yn Albaneg, tan 1991.

Mae'r ddinas bellach yn cael ei alw'n Mitrovica neu Mitrovicë yn Albaniaeg a Kosovska Mitrovica (Косовска Митровица) yn yr iaith Serbeg.

Demograffeg

[golygu | golygu cod]
Young people on the banks of Ibar river in Mitrovica

Adnabyddir Mitrovica gan ei gwahaniaeth ethnig amlwg sy'n cael eiddominyddu gan Albaniaid ac yn Serbiaid. Ond ceir hefyd Bosniaks, Twrciaid, Romani a grwpiau ethnig eraill. Yn rhan ddeheuol y ddinas, mae'r Albaniaid yn cynrychioli 96.65% o'r holl boblogaeth gyda niferoedd bychain o Roma, Twrciaid, Bosniaks ac eraill. Yn ôl cyfrifiad 2011 dim ond 14 Serb sy'n byw ym mwrdeisdref ddeheuol Mitrovica.

Darlun ethnig De Mitrovica
yn ôl cyfrifiad 2011[5]
GrŵpPoblogaethCanran
Albaniaid69,49796.65%
Serbiaid Cosofo140.02%
Twrciaid Cosofo5180.72%
Bosniakiaid Cosofo4160.58%
Roma5280.73%
Ashkali6470.9%
Eifftwyr Ashkali60.01%
Gorani230.03%
Eraill470.07%
Ddim am ateb610.08%
Not available1520.21%
Cyfanswm71,909100%

Gan na wnaeth Gogledd Mitrovica ymgymryd yn y cyfrifiad yn Ebrill 2011, cymerwyd y data oddi ar diweddariad 2008-2009 gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo a dderbynir fel y data swyddogol gan lywodraeth y wlad. Ond mae gan wahanol sefydliadau amcangyfrifol eraill hefyd.

Yng Ngogledd Mitrovica, yn ôl diweddariad 2009, a wnaethpwyd gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo, mae'r Serbiaid a grwpiau ethnig eraill yn gyfrifol am 92.97% neu 11,459 o'r trigolion tra bod 7.03% neu 867 yn Albaniaid.

Darlun ethnic Gogledd
yn ôl Diweddariad 2009 Update[6]
GrŵpPoblogaethCanran
Albaniaid8677.03%
Serbiaid a grwpiau eraill11,45992.97%
Cyfanswm12,326100%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "2011 Census: Mitrovica (demographics)". Kosovo Agency of Statistics/OSCE.
  2. name="KNBook">Grujić, Petar V. (2014). KOSOVO KNOT (yn Saesneg). Dorrance Publishing. t. 5. ISBN 9781480998452. Cyrchwyd 4 February 2018.
  3. name="HDKBook">Elsie, Robert (2010). Historical Dictionary of Kosovo (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 97. ISBN 9780810874831. Cyrchwyd 4 Chwefror 2018.
  4. name="KNBook"
  5. Population by ethnic /cultural background sex and municipality 2011[dolen farw] Data for South Mitrovica
  6. name="Estimation of Kosovo population 2011"