Mission: Impossible - Rogue Nation

Oddi ar Wicipedia
Mission: Impossible - Rogue Nation

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Christopher McQuarrie
Cynhyrchydd Tom Cruise
J. J. Abrams
Bryan Burk
David Ellison
Dana Goldberg
Don Granger
Ysgrifennwr Sgript gan:
Christopher McQuarrie
Stori gan:
Christopher McQuarrie
Seiliedig ar:
Mission: Impossible
gan Bruce Geller
Serennu Tom Cruise
Jeremy Renner
Simon Pegg
Rebecca Ferguson
Ving Rhames
Alec Baldwin
Sean Harris
Cerddoriaeth Joe Kraemer
Sinematograffeg Robert Elswit
Golygydd Eddie Hamilton
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Skydance Productions[1]
Odin[1]
China Movie Channel[1]
Alibaba Pictures[1]
Bad Root Productions[1]
Dyddiad rhyddhau 23 Gorffennaf, 2015 (Opera'r Wladwriaeth Fienna)
31 Gorffennaf, 2015 (Yr Unol Daleithiau)
Amser rhedeg 131 munud[2]
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg a Hindi

Mae Mission: Impossible - Rogue Nation yn ffilm ysbïo acsiwn Americanaidd 2015 a'r pumed yng nghyfres y ffilmiau Mission: Impossible. Fe'i chyd-ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Christopher McQuarrie. Serenna Tom Cruise, Simon Pegg, Jeremy Renner, Rebecca Ferguson, Alec Baldwin, Sean Harris, Ving Rhames, Simon McBurney a Tom Hollander yn y ffilm, gyda Cruise, Renner, Pegg a Rhames yn ailgydio yn eu rolau o'r ffilmiau blaenorol. Cynhyrchwyd Rogue Nation gan Cruise, J. J. Abrams a David Ellison o Skydance Productions.

Yn y ffilm, mae'r gweithredwr y Llu Cenadaethau Amhosibl Ethan Hunt yn ceisio dianc rhag yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog yn dilyn chwalu'r llu wrth iddo weithio i brofi bodolaeth y Syndiciaeth, consortiwm terfysgol rhyngwladol dirgel.

Yn ogystal â'r pumed ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2015) a Mission: Impossible - Fallout (2018).

Cast[golygu | golygu cod]

  • Tom Cruise fel Ethan Hunt, gweithredwr y Llu Cenadaethau Amhosibl
  • Simon Pegg fel Benji Dunn, gweithredwr maes technegol y Llu Cenedaethau Amhosibl
  • Jeremy Renner fel William Brandt, Cyfarwyddwr Gweithredoedd Maes y Llu Cenedaethau Amhosibl
  • Rebecca Ferguson fel Ilsa Faust, cudd-weithredwr MI6 yn y Syndiciaeth
  • Alec Baldwin fel Alan Hunley, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog
  • Sean Harris fel Solomon Lane, cyn-weithredwr MI6 a aeth yn ddrwg a daeth yn arweinydd goruchaf ar y Syndiciaeth
  • Ving Rhames fel Luther Stickell, gweithredwr y Llu Cenedaethau Amhosibl ac arbenigwr cyfrifiaduron
  • Simon McBurney fel Atlee, Pennaeth y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth
  • Tom Hollander fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
  • Zhang Jingchu fel Lauren, dadansoddwraig yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog
  • Jens Hultén fel Janik Vinter, cyn-weithredwr y KGB a dirprwy i Lane
  • Hermione Corfield fel gweithredwr y Llu Cenedaethau Amhosibl sy'n chwarae rhan fel siopwriag siop recordiau yn Llundain

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Grierson, Tim (July 23, 2015). "'Mission Impossible - Rogue Nation': Review". Screen Daily. Media Business Insight. Cyrchwyd October 26, 2016.
  2. "Mission: Impossible – Rogue Nation". British Board of Film Classification. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 23, 2015. Cyrchwyd July 23, 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)