Neidio i'r cynnwys

Mirepoix (bwyd)

Oddi ar Wicipedia
Nionod, moron a helogan wedi'u torri mewn disiau.

Mae Mirepoix (Ffrangeg: [miʁ.pwa]) yn baratoad gyda sail o nionod, moron a helogan, sbeisys a pherlysiau, ac weithiau, ham neu gig moch, wedi'u torri'n giwbiau bach a'u brownio[1][2]. Yn gyffredinol, fe'i gweinyddir fel sesnin ar gyfer cawliau, cig neu bysgod.

Drwy trawsenwad, defnyddir enw mirepoix i ddynodi'r saws sy'n cynnwys y paratoad hwn.

Mae mirepoix yn debyg i soffritto Eidalaidd neu sofregit Catalanaidd.

Llysiau yn y broses o garameleiddio.

Tarddiad a Chwestiynau Ieithyddol

[golygu | golygu cod]

Dref yn Ariège yw Mirepoix, a fu'n eiddio i'r teulu Lévis-Mirepoix am amser maith. Dywedir bod y term mirepoix yn dod o enw'r dug cyntaf Mirepoix y mae ei gogydd a ddyfeisiodd y rysáit[3].

Mae Marie-Antoine Carême (teisennwr a cogydd Ffrengig) yn defnyddio'r enw hwn yn y genedl fenywaidd, ond mae Émile Littré (deallusyn a ieithofydd Ffrengig) yn priodoli'r genedl wrywaidd iddo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. This, H. "Glossaire des métiers du goût". icmpg.hub.inrae.fr (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2026-05-11.
  2. Margot (2022-01-24). "Qu'est ce qu'une mirepoix ? • Les Nouvelles Gastronomiques | Actualités". Les Nouvelles Gastronomiques | Actualités (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2026-05-11.
  3. "Le nom de Mirepoix à la cour de Louis XV". ladepeche.fr (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2026-05-11.