Neidio i'r cynnwys

Mirawas

Oddi ar Wicipedia
Mirawas
Mirawas yn 2015.
Ganwyd1955 Edit this on Wikidata
Tangi Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 2025 Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr Edit this on Wikidata

Digrifwr o Bacistan oedd Mirawas (Hayatullah Khan; 19553 Ebrill 2025). Cafodd yrfa o hanner can mlynedd ym myd adloniant, a chafodd ei ystyried yn gomedïwr, dychanwr, a pharodïwr blaenaf yr iaith Bashto.

Ganed ef yn Tangi ar gyrion Charsadda, yn Nhalaith Ffin y Gogledd-Orllewin, yng nghyfnod Dominiwn Pacistan.

Arferai Mirawas amrywiaeth o ffurfiau ac arddulliau, gan gynnwys adrodd straeon ffraeth a pherfformio caneuon parodi, comedi fyrfyfyr a jôcs un llinell. Ymddangosodd ar y radio ac ar sianel Pakistan Television (PTV) yn ogystal â mewn theatrau a sioeau preifat. Cyhoeddodd gasgliad o'i jôcs, caneuon, a barddoniaeth ddigrif o'r enw Gup Da Mirawas.[1]

Bu farw Mirawas yn 70 oed yn yr ysbyty yn Peshawar wedi iddo ddioddef o ddiabetes a chlefyd yr aren am gyfnod hir.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Sabz Ali Tareen, "Famous Pashto comedian Mirawas passes away", The News International (4 Ebrill 2025). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Ebrill 2025.