Milgi Eidalaidd

Oddi ar Wicipedia
Milgwn Eidalaidd yn cwrso ysgyfarnogod.

Ci arffed a helgi sy'n tarddu o'r Eidal yw'r Milgi Eidalaidd. Hen frîd sy'n hanu o'r Milgi yw hwn, a bu'n gi anwes poblogaidd gan aristocratiaid Ewrop. Mae ganddo daldra o 33 i 38 cm ac yn pwyso 3 i 4.5 kg. Mae'n edrych fel milgi bychan: llygaid mawr a chôt denau, loyw o liw dugoch, melynllwyd, hufen, gwyn, glasllwyd neu lwyd. Ci bywiog ac addfwyn yw'r Milgi Eidalaidd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) greyhound. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Dog template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.