Milfyw

Oddi ar Wicipedia
Luzula campestris
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Poales
Teulu: Juncaceae
Genws: Luzula
Rhywogaeth: L. natans
Enw deuenwol
Luzula campestris
Carl Linnaeus
Cyfystyron
  • Alisma natans L.

Planhigyn blodeuol lluosflwydd a monocotyledon sy'n edrych yn debyg i wair yw Milfyw sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Juncaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Luzula campestris a'r enw Saesneg yw Field wood-rush.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Coedfrwynen y Maes, Brwynen Flewog y Maes, Brwynen y Maes, Gwellt Frwynen, Gwelltfrwyn y Caeau, Gwellfrwynen, Mifyw, Ysgubwr Simna.

Mae'r planhigyn yn perthyn yn agos i’r brwyn ac fe'i nodweddir gan flew hirwyn ar y dail a’r coesyn[2]. Mae'n tyfu'n araf iawn - a hynny ar bridd da, cyfoethog, mewn bob math o amrywiaeth o ran gwlybaniaeth eu cynefin; mae i'w ganfod yn aml mewn gwlyptiroedd. Mae'r planhigyn yn ddeurywiol ac mae'r dail yn fytholwyrdd. Mae cred gan amaethwyr yng ngogledd Cymru bod ymddangosiad blodyn y filfyw yn arwydd i adael yr eidion du i'r borfa ar ôl bod yn gaeth dros y gaeaf:

Yr eidion du gaiff fyw
Heddiw mi welais filfyw

Noder: MIL = anifail (cymh. MILFEDDYG

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod]

Gwelwn o Eiriadur Prifysgol Cymru i'r enw milfyw gyfeirio at fwy nag un rhywogaeth o blanhigyn yn ogystal â Luzula campestris, sef llygad Ebrill, Ranunculus ficaria a "figwort" a "pilewort". Mae dwy elfen i'r gair: mil- yn yr ystyr anifail, bwystfil, creadur, llwdn, hefyd yn ffig. am ddyn, weithiau’n ddifr.; (geir.) anifail nad yw dyn yn arfer ei fwyta, a -byw. Dyma'r ffynonellau yn GPC[2]:

  • 1547 WS, mil milfyw llyseun.
  • 16g. (1763) W. Salesbury: LlM 243, Chelidonium minus yn llatin Figwurt yn Saesonaeg y vronwys y vilfyw, nei melyn y gwanwyn yn Cambraec.
  • 1604-7 TW (Pen 228), y vilvyw, (herwydd gobeith gwyr y wlat y byddant byw yr aniueilieit pan vlodeuo) d.g. chelidonium minus.
  • 1632 D (Bot), y Fronwys, y Filfyw, mil, melyn y gwanŵyn, y fronwst, gwenith y ddaiar, y fioled fraith, llygad Ebrill, llygad y diniewid.
  • 1688 TJ (Bot), y Filfŷw, mîl, yd gwŷllt, y fronwŷs, wild Wheat, wild corn, Pile-wort.
  • 1725 SR (Bot), milfyw d.g. [celandine,] smale Celandine, figwort, pilewort.
  • 1803 P, milvyw, s.f. the figwort; also called milvyd, y vronwys, melyn y gwaenwyn [sic], gwenith y ddaiar, llygad ebrill, llygad y ddyniawed.
  • 1813 WB 220, Milfyw; Ranunculus Ficaria; Pilewort.
  • Ar lafar yn y Gogledd yn yr ystyr ‘field woodrush’, hefyd yn y ff. milfen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. 2.0 2.1 Geiriadur Prifysgol Cymru
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: