Mikhail Fradkov
Mikhail Fradkov | |
---|---|
![]() |
|
Ganwyd | 1 Medi 1950 ![]() Samara ![]() |
Addysg | Gwobr Kandidat Nauk mewn Economeg ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, economegydd, gweinidog ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Plant | Pyotr Fradkov ![]() |
Gwobr/au | Urdd Anrhydedd, Order "For Merit to the Fatherland" I class, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Urdd Alexander Nevsky (Rwsia), Order of Military Merit, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words) ![]() |
Gwefan | http://www.government.ru/government/ ![]() |
Gwleidydd Rwsiaidd yw Mikhail Yefimovich Fradkov (Rwsieg: Михаи́л Ефи́мович Фрадко́в) (ganed 1 Medi 1950). Prif Weinidog Rwsia oedd ef o 5 Mawrth 2004 tan 14 Medi 2007.
Yn enedigol o ardal Kuybyshev (heddiw Oblast Samara), daliodd Fradkov swyddi Darpar Weinidog Perthnasau Economaidd Tramor (1992-1993), Prif Ddarpar Weinidog Perthnasau Economaidd Tramor (1993-1997), Gweinidog Perthnasau Economaidd a Masnach Tramor (1997-1999), a Gweinidog Masnach (1999-2001), cyn cael ei benodi fel Darpar Ysgrifennydd y Cyngor Diogelwch. Daeth yn bennaeth dros Heddlu Ffederal dros Drethi yn 2001, ac wedyn cynrychiolydd Rwsia i'r Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei enwebu fel prif weinidog gan Arlywydd Vladimir Putin ar 1 Mawrth 2004, a'i enwebiad yn cael ei gadarháu gan y Duma ar 5 Mawrth.
|