Midori Gotō

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Midori Gotō
MidoriInstructingStudent 2013rehearsal.jpg
Ganwyd 25 Hydref 1971 Edit this on Wikidata
Osaka Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd
  • Prifysgol Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaeth fiolinydd, athro celf, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol De California Edit this on Wikidata
Arddull Cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.gotomidori.com/ Edit this on Wikidata

Cerddor Americanaidd a aned yn Japan yw Midori Gotō (ganwyd 25 Hydref 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel fiolinydd, athro celf ac awdur.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 11 oed, fel unawdydd gwadd annisgwyl yng Ngala Nos Galan, 1982. Yn 1986 gwnaeth ei pherfformiad cyntaf yng Ngwyl Gerdd Tanglewood gyda Leonard Bernstein yn arwain ei gyfansoddiad-cerdd ei hun, ac ymddangosodd fel penawdau tudalen flaen The New York Times. Dros nos, daeth Midori yn blentyn enwog, ac yn un o feiolinwyr mwyaf blaenllaw'r byd.[1][2][3]

Sefydlodd gorff o'r enw Midori and Friends i ddod ag addysg cerdd i bobl ifanc cymunedau tlawd Dinas Efrog Newydd a Siapan; Mae Midori and Friends bellach wedi datblygu'n bedwar sefydliad gwahanol gydag effaith fyd-eang. Apwyntiwyd hi yn 'Negesydd heddwch' y Cenhedloedd Unedig yn 2009.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Osaka ar 25 Hydref 1971. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Ysgol Juilliard, Efrog Newydd a Phrifysgol Efrog Newydd. Gollyngodd gyfenw'i thad o'i henw llwyfan ar ôl ysgariad ei rhieni yn 1983, gan berfformio o dan yr enw Mi Dori i ddechrau, ac yna defnyddiodd y gair unigol Midori. [4][5][6][3] then deciding on the single word Midori.[7][2] Peiriannydd oedd ei thad a fiolinydd oedd ei mam. Roedd Setsu yn mynd â Midori ifanc yn rheolaidd i ymarferion y gerddorfa, lle roedd y plentyn bach yn cysgu yn rhes flaen yr awditoriwm tra roedd ei mam yn ymarfer ar y llwyfan. Un diwrnod, clywodd Setsu y Midori dwy flwydd oed yn canu concerto gan Johann Sebastian Bach a oedd wedi cael ei ganu iddi ddeuddydd ynghynt.

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2000, graddiodd Midori magna cum laude o Ysgol Gallatin ym Mhrifysgol Efrog Newydd gyda gradd baglor mewn seicoleg ac astudiaethau rhyw, gan gwblhau'r radd mewn pum mlynedd tra'n parhau i berfformio mewn cyngherddau. Yn ddiweddarach enillodd radd meistr mewn seicoleg gan NYU yn 2005.

Yn 2004, cafodd Midori ei henwi yn athro Ysgol Gerdd Thornton Prifysgol Southern California lle mae'n Gadeirydd y Jascha Heifetz. Cyhoeddwyd ei chofiant Einfach Midori ("Simply Midori") hefyd yn yr Almaen yn 2004.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Brookes, Stephen (March 23, 2012). "Violinist Midori coming to Alexandria to perform — and to teach young musicians". The Washington Post. https://www.washingtonpost.com/lifestyle/style/violinist-midori-coming-to-alexandria-to-perform--and-to-teach-young-musicians/2012/03/20/gIQAilF1VS_story.html. Adalwyd November 15, 2017.
  2. 2.0 2.1 Earls, Irene (2002). "Midori". Young Musicians in World History. Greenwood Publishing. pp. 93–98. Adalwyd 24 Medi 2017 – via Google Books.  Check date values in: |access-date= (help)
  3. 3.0 3.1 Perlmutter, Donna (8 Ebrill 1990). "Midori: From Prodigy to Artist : Unlike many Wunderkinder, the Japanese violinist has made the transition from lollipops to limousines". Los Angeles Times. http://articles.latimes.com/print/1990-04-08/entertainment/ca-1631_1_japanese-violinist. Adalwyd 15 Tachwedd 2017.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 10034048, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 13 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  7. Schwarz, K. Robert (24 Mawrth 1991). "Glissando". https://www.nytimes.com/1991/03/24/magazine/glissando.html?pagewanted=all. Adalwyd 25 Medi 2017.