Michael Tolkin
| Michael Tolkin | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Hydref 1950 Dinas Efrog Newydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, nofelydd, cynhyrchydd ffilm |
| Gwobr/au | Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr Edgar |
| Gwefan | https://www.michaeltolkin.com |
Gwneuthurwr ffilmiau a nofelydd o'r Unol Daleithiau yw Michael L. Tolkin (ganwyd 17 Hydref 1950). Mae wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau ffilm, gan gynnwys The Player (1992), a addasodd o'i nofel o'r un enw (1988),[1]. Derbyniodd Wobr Edgar am y Sgript Ffim Orau (1993) a chafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am Addasiad Ffilm Orau. Dilynodd The Return Of The Player, (2006).[2]
Yn 2018, cyd-greodd Tolkin y gyfres fer Escape at Dannemora gyda Brett Johnson .[3] Roedd y gyfres yn seiliedig ar y ddihangiad o Gyfleuster Cywiro Clinton yn 2015 a arweiniodd i erlyn dau garcharor ym mhen uchaf Efrog Newydd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Tolkin i deulu Iddewig o Rwmania ac Wcráin [4][5] yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd, yn fab i Edith (g. Leibovitch), gweithredwr stiwdio a chyfreithiwr yn y diwydiant ffilm, a'r diweddar awdur comedi Mel Tolkin.[6]
Graddiodd ym 1974 o Goleg Middlebury.
Mae Tolkin yn byw yn Los Angeles gyda'i wraig, yr awdur Wendy Mogel, a'u dwy ferch, Susanna ac Emma.[7]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gleaming the Cube (1989 - sgript i ffilm)
- The Rapture (1991 - sgript i ffilm / cyfarwyddwr)
- The Player (1992 - sgript i ffilm, o'i nofel)
- Deep Cover(1992 - sgriptio ar y cŷd)
- The New Age (1994 - sgript y ffilm/ cyfarwyddwr)
- The Burning Season (1994 - drama deledu ar y cŷd)
- Deep Impact (1998 - sgriptio ar y cŷd)
- The Haunting (1999 - cŷd-sgrinio, heb ei glodrestru)
- Changing Lanes (2002 - sgriptio ar y cŷd)
- Dawn of the Dead (2004 - sgriptio ar y cŷd, heb ei glodrestru)
- Nine (2009 - sgriptio ar y cŷd)
- Escape at Dannemora (2018 - cyfres fer, cŷd-grëwr, ysgrifennwr)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Player (1988)
- Among the Dead (1993)
- Under Radar' (2003)
- The Return Of The Player (2006)
- NK3 (2017)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tolkin, Michael, "The Player", 1st ed., New York : Atlantic Monthly Press, 1988.
- ↑ Tolkin, Michael, The Return of the Player, 1st ed., New York : Grove Press, 2006.
- ↑ Andreeva, Nellie (2 Mehefin 2017). "Paul Dano Joins Benicio del Toro & Patricia Arquette As Ben Stiller's Prison Break Limited Series Gets Showtime Green Light". Deadline. Deadline. Cyrchwyd 7 Ionawr 2019.
- ↑ Rosenman, Howard (20 Mawrth 2019). "Hollywood Writer Michael Tolkin on Judaism, Awards and Global Warming". The Jewish Journal of Greater Los Angeles. Cyrchwyd 12 Ebrill 2019.
- ↑ Michael Lee, "Michael Tolkin’s American Midrash", Tablet Magazine; adalwyd 2 Mehefin 2017
- ↑ Filmreference.com
- ↑ New York Times: "So the Torah Is a Parenting Guide?" by Emily Bazelo October 1, 2006