Neidio i'r cynnwys

Michael Curtiz

Oddi ar Wicipedia
Michael Curtiz
Michael Curtiz ym 1939.
Ganwyd25 Rhagfyr 1886 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1962 Edit this on Wikidata
Sherman Oaks, Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr, sgriptiwr ffilm, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodBess Meredyth, Lili Damita, Lucy Doraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm o Awstria-Hwngari, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa a'i oes yn Unol Daleithiau America, oedd Michael Curtiz (25 Rhagfyr 188610 Ebrill 1962) sy'n nodedig fel un o'r cyfarwyddwyr toreithiocaf yn hanes sinema, ac am gyfarwyddo nifer o glasuron Oes Aur Hollywood.

Ganed ef yn Budapest, Awstria-Hwngari, i deulu Iddewig. Dechreuodd ei yrfa yn Ewrop cyn ymfudo i'r Unol Daleithiau yn ystod y 1920au.

Ymunodd Curtiz â Warner Bros., lle bu'n gweithio am y rhan fwyaf o'i yrfa ac yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y stiwdio. Roedd ei allu i addasu i wahanol arddulliau a genres—gan gynnwys dramâu hanesyddol, ffilmiau antur, film noir, a sioeau cerdd—yn ei wneud yn gyfarwyddwr hynod amlbwrpas. Daeth yn adnabyddus am ei gynhyrchiant eithriadol, gan gyfarwyddo dros 170 o ffilmiau. Ymhlith ei weithiau enwocaf mae Angels with Dirty Faces (1938), Casablanca (1942), a enillodd Wobr yr Academi am y Ffilm Orau, Yankee Doodle Dandy (1942), Mildred Pierce (1945), a White Christmas (1954), yn ogystal â nifer o ffilmiau antur gydag Errol Flynn gan gynnwys Captain Blood (1935), The Charge of the Light Brigade (1936), The Adventures of Robin Hood (1938). a The Sea Hawk (1940).

Treuliodd Curtiz hanner can mlynedd yn y diwydiant ffilm, gan gynnwys 35 mlynedd yn gweithio yn Hollywood. Bu farw yn Los Angeles, Califfornia, yn 75 oed. Er ei lwyddiant artistig, roedd Curtiz yn enwog am ei arddull arweiniol galed a'i acen gref, a arweiniodd at sawl hanes adnabyddus am gamddealltwriaethau ar setiau ffilm. Serch hynny, mae ei gyfraniad i ddatblygiad sinema glasurol Hollywood yn cael ei gydnabod yn eang, ac mae ei waith yn parhau i ddylanwadu ar gyfarwyddwyr a beirniaid ffilm hyd heddiw.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn sy'n sicr am fywyd cynnar Curtiz, gan na adawodd hunangofiant ar ei ôl, anaml y cafodd ei gyfweld, a phan fyddai'n siarad amdano'i hun byddai'n aml yn rhoi adroddiadau anghyson, gan gynnwys ynghylch ei ddyddiad geni. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'w dystysgrif geni gan ei fywgraffydd Alan K. Rode yn 2017: mae'n nodi iddo gael ei eni yn Budapest, Awstria-Hwngari, am 9 o'r gloch y nos ar 25 Rhagfyr 1886, dan yr enw Manó Kaminer. Cafodd ei fagu mewn teulu Iddewig o'r dosbarth canol uwch yn Budapest. Cantores gyngerdd oedd ei fam, a saer o bosib oedd ei dad. Mae’n bosib iddo ymuno â syrcas deithiol am gyfnod byr yn ystod ei arddegau cyn mynychu'r brifysgol ac yna astudio actio yn Academi Frenhinol y Theatr a'r Celfyddydau yn Budapest.[1] Yn 1905, mabwysiadodd yr enw Mihály Kertész, neu yn y dull Hwngareg Kertész Mihály.

Gyrfa yn Ewrop

[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd ar y llwyfan yn gyntaf yn Budapest yn 1910, a chychwynnodd actio mewn dramâu ac efallai eu cyfarwyddo. Cyfarwyddodd ac ymddangosodd yn y ffilm fawr gyntaf a ryddhawyd gan ddiwydiant ffilm newydd Hwngari, Ma és holnap (1912). Aeth i Ddenmarc am chwe mis, ac yno serennodd yn Atlantis (1913) a gyfarwyddwyd gan August Bloom. Gwasanaethodd ym myddin Awstria-Hwngari yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi iddo gael ei glwyfo gwneuthurodd ffilmiau dogfen i godi arian i'r Groes Goch. Dychwelodd i gyfarwyddo ffilmiau masnachol, ac erbyn 1916, gyda llawer o ffilmiau mud i'w enw, roedd yn un o gyfarwyddwyr pwysicaf Hwngari. Gadawodd y wlad ym 1919, fodd bynnag, ar ôl i'r llywodraeth gomiwnyddol newydd gymryd rheolaeth dros y diwydiant ffilm, a dechreuodd weithio yn Fienna, Awstria. Ymhlith ei luniau o'r cyfnod hwn mae Sodom und Gomorrha (1922) a Die Sklavenkönigin (1924).

Gyrfa gynnar yn yr Unol Daleithiau

[golygu | golygu cod]

Yn 1926 cafodd wahoddiad oddi wrth Jack Warner i deithio i Hollywood, canolfan y diwydiant ffilm yn yr Unol Daleithiau, gan ddechrau cyfnod o 28 mlynedd i’r cyfarwyddwr yn Warner Brothers. Seisnigodd ei enw i Michael Curtiz. Ar ôl cyfnod byr yn cyfarwyddo ffilmiau mud, gwnaeth Curtiz y ffilmiau rhan-sain Tenderloin a Noah's Ark (y ddwy yn 1928). Yn debyg i'r clasur epig Intolerance (1916) gan D. W. Griffith, roedd Noah's Ark yn cynnwys dwy stori gyfochrog, un yn adrodd hanes Beiblaidd y Dilyw, a'r llall yn rhamant o gyfnod y Rhyfel Mawr.

Wrth i Warner Brothers ruthro i gadw i fyny â'r stiwdios eraill a oedd â gwell cyllid (gan gyflwyno ffilmiau lliw yn ogystal â sain), roedd ei chyfarwyddwyr yn gweithio'n aml ac yn gyflym, ac nid oedd Curtiz yn eithriad. Ym 1930 cyfarwyddodd y ffilm gerdd Mammy, yn serennu Al Jolson a chyda chaneuon gan Irving Berlin; y gomedi The Matrimonial Bed; y gomedi gerdd Bright Lights; River’s End, sy'n seiliedig ar nofel yn genre'r Gorllewin Gwyllt ond wedi ei lleoli yng Nghanada; a’r ddrama gomedi gerdd A Soldier's Plaything. Mae ei luniau o 1921 yn cynnwys The Mad Genius (1931) gyda John Barrymore a'r gomedi ramantus gerdd God's Gift to Women.

Hyd at yr adeg hon yn ei yrfa, roedd gwaith Curtiz bron yn gwbl anwahanadwy oddi wrth waith ei gyd-gyfarwyddwyr yn stiwdio Warner Bros. megis Lloyd Bacon, Roy Del Ruth, William Keighley ac Archie Mayo, ac ychydig yn is na safon Mervyn LeRoy a William Wellman. Mae rhai beirniaid wedi tynnu sylw at The Strange Love of Molly Louvain (1932), ffilm gangsteriaid gydag Ann Dvorak a Lee Tracy, fel ymdrech bersonol gyntaf Curtiz, ond mae'r mwyafrif yn rhoi'r clod hwnnw i Doctor X (1932). Ffilm arswyd ddirgelwch yw Doctor X, gyda Lionel Atwill fel prifathro gwallgof a Lee Tracy a Fay Wray yn brae iddo, ac mae gan y llun hwn olwg hollol unigryw. Rhyddhawyd ffilm arall ym 1932, The Cabin in the Cotton, gyda Richard Barthelmess yn serennu fel cyfrangnydiwr yn y De Eithaf sy'n cael ei ddenu gan femme fatale, a bortreadir gan Bette Davis.

Ym 1933 cafwyd trobwynt yn ei yrfa gyda sawl llwyddiant. Gyda 20,000 Years in Sing Sing, fe chwythodd fywyd newydd i mewn i genre flinedig y ffilm garchar, gan wneud y defnydd gorau o Spencer Tracy fel carcharor tyngedfennol a Bette Davis fel ei gariad ffyddlon. Hyd yn oed yn fwy trawiadol oedd Mystery of the Wax Museum, bron yn ddilyniant i Doctor X, gydag Atwill a Wray. Llai cofiadwy oedd y pum ffilm arall a gyfarwyddodd Curtiz y flwyddyn honno: y ddrama gomedi The Keyhole, y ddrama ramantus Female, y gomedi ramantus Goodbye Again, a phâr o ffilmiau gyda William Powell yn portreadu ditectif preifat, Private Detective 62 (a ryddhawyd hefyd dan y teitl Man Killer) a The Kennel Murder Case.

Parhaodd Curtiz i gynhyrchu ffilmiau'n ddi-baid yn 1934, er nad oedd y canlyniadau bob amser yn foddhaol, fel y dengys Mandalay. Llawer gwell oedd Jimmy the Gent, y cyntaf o sawl cydweithrediad llwyddiannus gyda James Cagney, y tro hwn yn rôl twyllwr swynol sy'n cael gwers gan Davis. Yn The Key, portreadodd Powell gapten Prydeinig yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon; gosodwyd y ddrama ramantus British Agent yn ystod y Chwyldro Bolsieficaidd, gyda Leslie Howard yn ddiplomydd o Brydain a Kay Francis yn ysbiwraig Rwsiaidd.

Olivia de Havilland ac Errol Flynn yn y rhaglun ar gyfer Captain Blood (1935).

Roedd ffilmiau â chydwybod gymdeithasol yn gyffredin gan Warner Bros yn y 1930au, ac ym 1935 profodd Curtiz ei hun yn ymarferydd medrus o'r genre gyda Black Fury, ffilm drosedd gyda Paul Muni yn löwr sy'n cael ei lofruddio gan heddlu'r cwmni glo. Ym 1935 hefyd cyfarwyddodd y ffilm ddirgelwch The Case of the Curious Bride, yn seiliedig ar un o nofelau'r cyfreithiwr Perry Mason gan Erle Stanley Gardner. Cyfarwyddodd Curtiz Bette Davis am y pedwerydd tro yn y gomedi Front Page Woman, ac yna methodd â'i ymgais i drawsnewid Sybil Jason, seren blentyn o Dde Affrica, yn Shirley Temple arall yn Little Big Shot. Fodd bynnag, cafodd Curtiz lwyddiant anhygoel gyda'i bumed ffilm o 1935, Captain Blood, llun am fôr-ladron yn clecio cleddyfau, yn seiliedig ar y nofel antur gan Rafael Sabatini, ac yn serennu Errol Flynn, Olivia de Havilland, a Basil Rathbone. Cafodd ei henwebu am Wobr yr Academi am y Ffilm Orau, a fe wnaeth greu seren o Flynn (y bu Curtiz yn gweithio gydag ef dro ar ôl tro), rhoi hwb i ffawd Olivia de Havilland, a chodi gyrfa Curtiz i lefel hollol newydd. Mae'n debyg mai Captain Blood ydy'r enghraifft glasurol o genre'r ffilm swashbuckler.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Michael Curtiz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ionawr 2026.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Alan K. Rode, Michael Curtiz: A Life in Film (Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky, 2017).