Michael Bond
Michael Bond | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Ionawr 1926 ![]() Newbury ![]() |
Bu farw | 27 Mehefin 2017 ![]() Llundain, Paddington ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, awdur plant, sgriptiwr, hunangofiannydd, gweithredydd camera, sinematograffydd, sefydlydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Paddington Bear ![]() |
Perthnasau | Kate Garraway ![]() |
Gwobr/au | OBE, CBE ![]() |
Awdur plant o Loegr oedd Michael Bond CBE, (13 Ionawr 1926 – 27 Mehefin 2017). Ef greodd Paddington Bear, ac ysgrifennodd hefyd am anturiaethau mochyn cwta o'r enw Olga da Polga. Roedd Bond hefyd yn ysgrifennu straeon dirgelwch coginiol ar gyfer oedolion; y prif gymeriad ydy Monsieur Pamplemousse a'i gwaetgi ffyddlon, Pommes Frites.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Newbury, Berkshire. Addysgwyd Bond yn Presentation College, ysgol Gatholig yn Reading. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd yn yr RAF a Chatrawd Middlesex o'r Fyddin Brydeinig.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ysgrifennu yn 1945, a gwerthodd ei stori fer gyntaf i gylchgrawn London Opinion. Yn 1958, ar ôl cynhyrchu nifer o ddramau a straeon byrion tra'n gweithio i'r BBC fel dyn camera teledu (gweithiodd ar raglen Blue Peter am gyfnod), cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf A Bear Called Paddington. Erbyn 1967 roedd yn gallu rhoi'r gorau i'w swydd yn y BBC er mwyn dod yn awdur llawn amser. Mae anturiaethau Paddington wedi eu cyhoeddi mewn bron i ugain gwlad, mewn deugain iaith.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Bond yn briod gyda dau o blant a pedwar ŵyr. Roedd yn byw yn Llundain, ddim yn bell o Orsaf Paddington. Mae'r arth a greodd wedi ysbrydoli bandiau pop, ceffylau rasio, dramau, balwnau awyr a chyfres deledu.
Yn 1997, anrhydeddwyd Bond gyda OBE am ei wasanaethau i lenyddiaeth plant.
Ar 6 Gorffennaf 2007, gafodd Radd Anrhydedd Doctor of Letters gan Brifysgol Reading.