Mesenteri

Oddi ar Wicipedia
Mesenteri
Enghraifft o'r canlynolorgan, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathdarn o organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan opilen serous Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mesenteri

Mae'r mesenteri yn fand plyg o feinwe pilennog (peritonewm) sydd ynghlwm wrth wal yr abdomen ac yn amgáu'r ymysgaroedd. Mewn pobl, mae'r mesenteri yn tyfu o gwmpas y pancreas a'r coluddyn bach ac yn ymestyn i lawr o amgylch y colon a rhan uchaf y rectwm. Un o'i brif swyddogaethau yw cadw organau'r abdomen yn eu safle priodol[1].

Gwnaed un o'r disgrifiadau cynharaf o'r mesenteri gan Leonardo da Vinci, ac am ganrifoedd fe'i hanwybyddwyd fel math o atodiad dibwys. Dros y ganrif ddiwethaf bu meddygon yn tybio ei fod yn strwythur tameidiog wedi'i wneud o adrannau ar wahân, a oedd yn ei gwneud yn eithaf anniddorol. Wedi ymchwil a wnaed yn Ysbyty Prifysgol Limerick yn Iwerddon canfuwyd bod y mesenteri yn un strwythur parhaus. Yn 2017 cafwyd papur yn y cyfnodolyn meddygol the Lancet yn awgrymu dylid trin y mesenteri fel organ yn ei rinwedd ei hun. Bellach mae gwerslyfrau arbenigol megis Gray's Anatomy yn ei gyfrif yn organ[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.