Merthyron Ynys y Garn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plac yn coffáu merthyron Ynys y Garn yn Saint Peter Port

Roedd Merthyron Ynys y Garn yn dair menyw a chafodd eu llosgi ar y stanc am eu credoau Protestannaidd, ar Ynys y Garn, Ynysoedd y Sianel, ym 1556 yn ystod erlidiau Mari I.

Y Fam, Catherine Cauchés (canol), a'i dwy ferch, Guillemine Gilbert (chwith) a Perotine Massey (dde) gyda'i mab newydd anedig yn llosgi am heresi.

Achos cyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Guillemine Gilbert a Perotine Massey yn chwiorydd, a oedd yn byw gyda'u mam, Catherine Cauchés (a roddir weithiau fel "Katherine Cawches"). Roedd Perotine yn wraig i weinidog Calfinaidd Normanaidd, a oedd wedi ffoi i Lundain, er mwyn osgoi erledigaeth. Daethpwyd â'r tair dynes i'r llys ar gyhuddiad o dderbyn gobled oedd wedi'i ddwyn. Er y canfuwyd nad oeddent yn euog o'r cyhuddiad hwnnw, daeth i'r amlwg yn ystod yr achos bod eu barn grefyddol yn groes i'r hyn oedd yn ofynnol gan awdurdodau'r eglwys. Fe'u dychwelwyd i'r carchar yn Castle Cornet ac yn ddiweddarach fe'u cafwyd yn euog o heresi gan lys Eglwysig a gynhaliwyd yn Eglwys y Dref a'u trosglwyddo i'r Llys Brenhinol i'w dedfrydu lle cawsant eu condemnio i farwolaeth. [1]

Dienyddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflawnwyd y dienyddiad ar neu o gwmpas 18 Gorffennaf 1556. [2] Llosgwyd y tair ar yr un tân; dylent fod wedi cael eu tagu ymlaen llaw, ond torrodd y rhaff cyn iddynt farw a chawsant eu taflu i'r tân yn fyw. Cofnododd John Foxe fod Perotine yn "fawr gyda phlentyn" a bod "bol y fenyw wedi byrstio ar agor oherwydd ffyrnigrwydd y fflam, roedd y baban, dyn-blentyn teg, wedi cwympo i'r tân" . Cafodd y baban ei achub gan W. House a'i osod ar y gwair, [1] cymerwyd ef gan y Profost i'r Beili, Hellier Gosselin a orchmynnodd "y dylid ei gario yn ôl eto, a'i daflu i'r tân" . [3]

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar farwolaeth y Frenhines Mari (1558), bu'r Beili a hoelion wyth yr Eglwys Gatholig ar yr ynys yn destun cyfres o gomisiynau ac ymchwiliadau a oedd yn cwmpasu, nid yn unig amgylchiadau dienyddio'r menywod, ond hefyd am dwyll arianol. Roedd James Amy, y Deon, wedi ymrwymo i garchar yng Nghastell Cornet ac wedi ei ddifeddiannu o'i fywoliaeth. Cafodd Gosselin ei ddiswyddo ym 1562 ond llwyddodd ef â’r Jurats i gael pardwn gan Elisabeth I. [2]

Chwaraeodd ymateb i'r dienyddiadau ran fawr yn nhwf Calfiniaeth yn Ynysoedd y Sianel. [4]

Yn 1567 beirniadodd Thomas Harding gyfrif Foxe, nid am ei ddisgrifiad o'r digwyddiad, y mae Foxe yn dyfynnu llygad dystion a dogfennau swyddogol amdano, ond ar y sail bod Perotine Massey yn gyfrifol am farwolaeth ei phlentyn ei hun; pe bai hi wedi datgelu yn y llys ei bod yn feichiog, byddai'n rhaid gohirio'r dienyddiad tan ar ôl yr enedigaeth. [5]

Gellir gweld plac coffa i'r merthyron ar risiau Tower Hill yn St Peter Port, ger safle'r dienyddiad. Fe'i dadorchuddiwyd mewn gwasanaeth coffa ar 24 Ebrill 1999. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Lempriére, Raoul (1974). History of the Channel Islands. Robert Hale Ltd. t. 51. ISBN 978-0709142522.
  2. 2.0 2.1 Tupper, Ferdinand Brock. The Chronicles of Castle Cornet. Stephen Barbet 1851.
  3. The Acts And Monuments Of The Christian Church By John Foxe: 350.
  4. Compare: Ogier, Darryl Mark (1997), Reformation and Society in Guernsey, Boydell Press, ISBN 978-0851156033 (p. 62)
  5. Levin, Carole (1981), Women in The Book Of Martyrs as Models of Behavior in Tudor England, University of Nebraska - Lincoln (pp. 202 - 203)
  6. "La Villiaze Evangelical Congregational Church: The Guernsey Martyrs Memorial". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-14. Cyrchwyd 2012-03-28.