Menwaedd o Arllechwedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Menwaedd)

Arwr traddodiadol a restrir yn Nhrioedd Ynys Prydain fel un o 'Dri Chadfarchog Ynys Prydain' yw Menwaedd o Arllechwedd:

'Tri Chadfarchog Ynys Prydain:
Caradog Freichfras,
a Menwaedd o Arllechwedd,
a Llŷr Lluyddog.'

Ystyr 'cadfarchog' yw 'marchog brwydr'. Ar wahân i'r triawd hwn ac ambell gyfeiriad arall yng ngwaith y beirdd does dim gwybodaeth bellach amdano. Mae'n bosibl ei fod yn bennaeth cynnar ar Arllechwedd, un o gantrefi teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Mae'n bosibl hefyd ei fod yn gysylltiedig â'r cymeriad Menw mab Teirgwaedd yn chwedl Culhwch ac Olwen.

Mewn lle o'r enw Rhiw Gyferthwch yn Arfon (ger Beddgelert efallai), esgorodd yr hwch arallfydol Henwen ar genau blaidd a chyw eryr. Rhoddwyd y flaidd ifanc i Fenwaedd o Arllechwedd a'r cyw eryr i un Brynach Wyddel.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1988). Triawd 18. (Orgraff ddiweddar sydd yn y dyfyniad uchod).