Menter Iaith Bro Morgannwg
Enghraifft o'r canlynol | Menter Iaith |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 2013 |
Gwladwriaeth | Cymru |
Sefydlwyd Menter Iaith Bro Morgannwg (a elwir hefyd yn Menter Bro Morgannwg) yn Ebrill 2013, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg drwy greu cyfleoedd i drigolion y sir ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol.
Mae Menter Bro Morgannwg yn Gwmni Cyfyngedig Drwy Warant (8867706) ac yn Elusen Gofrestredig (1179555).[1] Ei Phrif Weithredwr yn 2024 yw Heulyn Rees sydd hefyd yn Brif Weithredwr ar Fenter Caerdydd - ymddengys bod Menter Bro Morgannwg o dan adain weinyddol Menter Caerdydd. Mae ei phencadlys yn yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, CF10 1BH.
Gweithgaredd
[golygu | golygu cod]Fel y Mentrau Iaith eraill, mae'r Fenter yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo'r Gymraeg yn amrywio o gyngherddau i ddarlithoedd. Maent yn trefnu dau brif ddigwyddiad:
- Gŵyl Fach y Fro - gŵyl flynyddol o gerddoriaeth pop Cymraeg a gynhelir am ddim ar hyd Bromenâd y Barri ym mis Mai neu Fehefin er mwyn peidio gwrthdaro â Tafwyl yng Nghaerdydd a drefnir gan Fenter Caerdydd. Mae'r ŵyl am ddim ac yn ogystal â cherddoriaeth Gymraeg ceir stondinau bwyd a stondinau bwyd a diod. Ceir dau lwyfan perfformio - yr un fwyaf sef 'Llwyfan y Traeth' a 'Glanfa Gwynfor' sy'n llwyfan.[2] Sefydlwyd yr ŵyl yn 2015.[3] Mae'r grwpiau sydd wedi perfformio yno yn amrywiol iawn.
- Bwrlwm y Fro - rhaglen o weithgareddau i blant ysgol dros y gwyliau ysgol. Mae'r gweithgareddau am ddim ac yn cael eu cynnal ar draws ysgolion cynradd y sir.[4]
- Ffônlyfr - mae'r Fenter yn cynhyrchu Ffônlyfr sy'n gyfeirlyfr o fusnesau a chymdeithasau Cymraeg neu sy'n cynnig gwasanaeth Gymraeg yn y sir.[5]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Menter Bro Morgannwg
- Eitem am Gŵyl Fach y Fro ar raglen Heno (2022)
- @MIBroMorgannwg cyfrif Z y Fenter
- @MIBroMorgannwg cyfrif Facebook y Fenter
- MenterBroMorgannwg y cyfrif Instagram
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Amdanom Ni". Gwefan Menter Iaith Bro Morgannwg. Cyrchwyd 30 Awst 2024.
- ↑ "Gŵyl Fach y Fro, Haf '24". Gwefan MBM. Cyrchwyd 30 Awst 2024.
- ↑ "Adroddiad Gwerthuso Gŵyl Fach y Fro 2017" (PDF). Gwefan MBM. Cyrchwyd 30 Awst 2024.
- ↑ "Bwrlwm y Fro, Haf '24". Gwefan MBM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-30. Cyrchwyd 30 Awst 2024.
- ↑ "Ffônlyfr". Gwefan MBM. Cyrchwyd 30 Awst 2024.