Mensa (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1760s |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0164f0 |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Mensa. "Mensa" yw'r gair Lladin am "fwrdd". Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
Fe'i henwyd yn "Montagne de la Table" (Ffrangeg: "Mynydd y Bwrdd") yn 1756 gan yy seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille, oedd wedi gwneud arsylwadau ar y sêr deheuol o Mynydd y Bwrdd ger Tref y Penrhyn, De Affrica, yn 1751–2. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'w ffurf Ladin, sef Mons Mensa, enw a fyrhawyd yn "Mensa" gan Francis Baily yn 1845.[1]
