Menna Trussler
| Menna Trussler | |
|---|---|
| Ganwyd | Marjorie Menna Morris 11 Mai 1935 Abertawe |
| Galwedigaeth | actores |
Actores Gymraeg o Fforest-fach, Abertawe, yw Menna Trussler (ganed 11 Mai 1935), enw morwynol Marjorie Menna Morris,[1] sydd wedi portreadau amrywiaeth o gymeriadau gwahanol ar y sgrin yng Nghymru a thu hwnt.[2] Ymddangosodd hefyd ar lwyfannau'r theatr yn arbennig yn Theatr y Grand, Abertawe. Mae hi'n adnabyddus am ei phortreadau yn y ffilm Pride, a'r cyfresi Little Britain, Un Bore Mercher, Stella, Alys, Jam & Jerusalem, Y Pris, We are Seven, Pam Fi, Duw? a Licyris Olsorts. Cafodd ei henwebu ar gyfer gwobr yr actores orau yng ngwobrau BAFTA Cymru ym 1995 am ei rhan yn y ffilm The Drag Factor, ac enillodd wobr am y llais gorau yng ngwobrau Animeiddio Prydeinig 2022, am y ffilm Affairs of the Art.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Menna Morris yn Abertawe a bu'n ymwneud â'r ddrama o oed ifanc iawn, yn gyntaf gyda Capel y Bedyddwyr lleol, ac ymunodd â chlwb drama amatur Fforest-fach.[4] Wedi blynyddoedd yn actio gyda'r cwmni, ymunodd â Chymdeithas Operatig Amatur Abertawe, gan berfformio sawl gwaith ar lwyfan Theatr y Grand yn y ddinas.[5]
Wedi'i magu mewn teulu glofaol, cafodd ei dylanwadu'n drwm gan "artist amldalentog" a swyddog ifanc o'r Awyrlu Cynorthwyol i Ferched o'r enw Diane yn ystod blynyddoedd y rhyfel.[4] Daeth Diane yn fentor i Menna, gan ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa actio, yn hytrach na mynychu Coleg Technegol Abertawe a dysgu teipio.[4]
Ei gŵr James (Jim) Denley Trussler (1927 – 2025)[1] a roddodd gyngor diffuant iddi, gan ei hannog i ymladd am gydnabyddiaeth yn hytrach nag aros i gael ei darganfod. Ym 1977, [yn 42 oed] cafodd gynnig swydd fel Rheolwr Llwyfan cynorthwyol yn Theatr y Grand, a roddodd fodd iddi ennill ei chardyn Equity, a chael perfformio mewn dramâu llwyfan am y 10 mlynedd canlynol. Bu'n gweithio'n agos gyda'r dramodydd Frank Vickery, ar sawl cynhyrchiad o'i waith.[5]
Ym 1997, ymunodd â chast Pam Fi, Duw? fel "gu" [mamgu], a bu ymhob cyfres wedi hynny.
Y tu hwnt i'w llwyddiant, mae Menna yn parhau i fod â chysylltiad dwfn â'i gwreiddiau, gan gefnogi a hyrwyddo maes actio amatur Abertawe.[4]
Bu farw ei phriod Jim Trussler ar gychwyn 2025, ac mae ganddynt un ferch, Nia Trussler, sydd hefyd yn actores.[6]
Derbyniodd Radd Er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe am ei chyfraniad fel actores.[4]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]Llawer o gynyrchiadau gyda Theatr y Sherman a Theatr y Grand, Abertawe.
- Gwenith Gwyn (1980) Cwmni Theatr Cymru
Ffilm, Teledu a Radio
[golygu | golygu cod]- Affairs of the Art (2021)
- Bronwyn goes dancing (2019)
- Un Bore Mercher / Keeping Faith (2017)
- Aberfan: The Green Hollow (2016)
- Golden Years (2016)
- The Kennedys (2015)
- The Casual Vacancy (2015)
- Pride (2014)
- Stella (2012-2014)
- Alys (2012-2014)
- There She Goes (2012)
- Come Fly with Me (2010)
- Jam & Jerusalem (2006-2009)
- Caught in the Act (2008)
- Torchwood (2008)
- Y Pris (2007)
- Casualty (2007)
- Pobol y Cwm (2006)
- Dreams and Desires: Family Ties (2006)
- Doctors (2006)
- Little Britain (2003-2005)
- Y Mabinogi (2003)
- The Bench (2002)
- Plotz with a View (2002)
- Anrheg Elin (2000)
- Human Traffic (1999)
- In the Company of Strangers (1999)
- Satellite City (1998)
- The Deadness of Dad (1998)
- Pam Fi, Duw? (1997-2001)
- Testament: The Bible in Animation (1996)
- The Sherman Plays (1993 - 1996)
- Trip Trap (1996)
- Wales Playhouse (1996)
- August (1996)
- Licyris Olsorts (1995-1998)
- Heliwr / A Mind to Kill (1995)
- Pobol y Cwm (1993)
- William Jones (1993)
- Eira Cynta'r Gaeaf (1992)
- Dan y Wenallt (1992) - radio
- Shakespeare: Y Dramâu wedi'u Hanimeiddio (1992)
- Rebecca's Daughters (1992)
- We are Seven (1989-1991)
- Body Beautiful (1991)
- Slac yn Dynn (1989)
- Ballroom (1988)
- Better Days (1988)
- A Killing on the Exchange (1987)
- The District Nurse (1987)
- Milwr Bychan (1987)
- That Uncertain Feeling (1986)
- Bowen a'i Bartner (1985)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan Ancestry".
- ↑ "Menna Trussler | Actress, Soundtrack". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-04.
- ↑ Nino Williams (11 Mawrth 2022). "An 86-year-old Swansea gran just beat Ricky Gervais to a top award". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Hydref 2025.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 "Menna Trussler - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2025-10-04.
- ↑ 5.0 5.1 "Menna Trussler". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-10-04.
- ↑ "Gwefan Facebook".