Mendele Mocher Sforim

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mendele Mocher Sforim
Mendele Mos big.jpg
Ganwyd 21 Rhagfyr 1835 Edit this on Wikidata
Kapyl Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata (81 oed)
Odessa Edit this on Wikidata
Galwedigaeth awdur, cyfieithydd, rabbi Edit this on Wikidata

Llenor Iddewig o Ymerodraeth Rwsia oedd Sholem Yankev Abramovitsh (20 Tachwedd 18358 Rhagfyr 1917), a adwaenir gan enw un o'i gymeriadau enwocaf Mendele Mocher Sforim (Hebraeg am "Mendele y Llyfrwerthwr Crwydrol").[1] Ysgrifennai straeon byrion a nofelau yn yr ieithoedd Hebraeg ac Iddew-Almaeneg. Mae ei ffuglen yn llawn digrifwch bywiog ac yn ffynhonnell bwysig o fywyd yr Iddewon yn Nwyrain Ewrop yn niwedd y 19g. Fe'i elwir yn aml yn Daid Llên Iddew-Almaeneg Fodern ac yn Dad Llên Hebraeg Fodern.[2]

Ganwyd yn Kapyl, ger Minsk, sydd heddiw yn rhan o Felarws, i deulu o dras Lithwanaidd. Yr oedd yn amddifad erbyn 14 oed, a threuliodd ei lencyndod yn teithio gyda chardotwyr drwy'r Wcráin. Cyhoeddodd ei erthygl gyntaf, ar bwnc diwygio addyg Iddewig, yng nghyfrol gyntaf y cylchgrawn Hebraeg ha-Maggid (1856). Symudodd i fyw yn Berdichev, sydd heddiw yn yr Wcráin, yn 1858, ac yno fe ddechreuodd ysgrifennu ffuglen, yn gyntaf yn Hebraeg ac yn ddiweddarach yn yr Iddew-Almaeneg. Cyhoeddodd stori fer yn 1863, a'r nofel ha-Avot ve-ha-banim ("Tadau a Meibion") yn 1868. Cafodd ei waith cynnar ei ddylanwadu'n gryf gan fudiad deallusol yr Haskalah a'r adfywiad Hebraeg a fu'n rhan o foderneiddio cymunedau Iddewig Ewrop ers diwedd yr 18g. Wedi iddo dreulio rhyw degawd yn ysgrifennu trwy gyfrwng yr Hebraeg, fe drodd at Iddew-Almaeneg, iaith y werin Iddewig yn Nwyrain a Chanolbarth Ewrop. Am yr ugain mlynedd nesaf fe ysgrifennodd yn yr iaith honno yn unig. Anelodd ei weithiau yn y cyfnod hwn at y werin Iddewig, gan bortreadu themâu a nodweddion eu byd a'u bywyd.[3] Cyhoeddodd nofel fer, Dos kleyne mentshele (1864; "Y Dyn Bach") yn y cylchgrawn Iddew-Almaeneg Kol mevaser ("Yr Herald"), cyfnodolyn a gafodd ei sefylu ar awgrym Mendele. Cyfieithiodd hefyd tair chyfrol Gemeinnützige Naturgeschichte, gan Harald Othmar Lenz, o'r Almaeneg i'r Hebraeg (1862–72).

Yn 1869 fe symudodd i Zhitomir, ac yno fe gafodd ei hyfforddi'n rabi. Ystyrir y nofel Kitsur massous Binyomin hashlishi (1875; "Teithiau ac Anturiaethau Benjamin y Trydydd") yn gampwaith Mendele. Disgrifiad panoramaidd o fywyd Iddewig ydyw, ac mae rhai wedi ei chymharu i arwrgerdd bicarésg ar batrwm Don Quixote. Daeth yn bennaeth ar ysgol Hebraeg i fechgyn yn Odessa yn 1881, dinas a oedd ar y pryd yn ganolfan ddiwylliannol yr Iddewon yn Rwsia. Yno fe ddaeth yn ffigur blaenllaw llên Iddewig, a'i alw gan yr enw Taid Mendele. Yn ei waith mae sawl adroddiant addfwyn ddychanol o fywyd y shtetl a disgrifiadau byw o gefn gwlad Dwyrain Ewrop. Nid oedd Mendele yn hoff o'r arddull ddienaid, Feiblaidd a ddefnyddiwyd gan lenorion Hebraeg yr 19g, a hwnnw oedd y prif reswm iddo droi at ddychan cymdeithasol yn yr Iddew-Almaeneg. Yn 1886, arloesai arddull newydd o Hebraeg ysgrifenedig pan gyhoeddwyd stori ganddo yn ha-Yom ("Heddiw"), y papur newydd dyddiol cyntaf yn yr iaith., a chychwynai ar drosi'r mwyafrif o'i weithiau Iddew-Almaeneg i'r Hebraeg.

Yn sgil pogromau yn erbyn yr Iddewon yn 1905, aeth i Genefa yn y Swistir am ddwy flynedd, a dychwelodd i Odessa i fod yn bennaeth ar yr ysgol nes iddo ymddeol yn 1916.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Mendele Moykher Sforim. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2018.
  2. Dan Miron, A Traveler Disguised: The Rise of Modern Yiddish Fiction in the Nineteenth Century (Syracuse: Syracuse University Press, 1996)
  3. (Saesneg) Payson R. Stevens, "Mendele Mokher Seforim" (My Jewish Learning). Adalwyd ar 27 Medi 2018.
  4. Ken Frieden, "Abramovitsh, Sholem Yankev", Encyclopaedia Judaica (Gale, 2007). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Medi 2018.