Menapii

Oddi ar Wicipedia
Tŷ o gyfnod y Menapii wedi ei ail-greu yn Destelbergen.

Llwyth Belgaidd yng ngogledd-ddwyrain Gâl oedd Menapii. Yn ôl Strabo a Ptolemi, roedd eu tiriogaethau o gwmpas aber Afon Rhein ac yn ymestyn tua'r de ar hyd Afon Schelde. Eu civitas oedd Cassel, yn awr yn Ffrainc, gerllaw Terouanne.

Ymladdodd y Menapii yn erbyn Iŵl Cesar yn ystod ei ymgyrchoedd yn Ngâl. Roeddynt yn rhan o'r cynghrair Belgaidd a orchfygwyd gan Cesar yn 57 CC, a'r flwyddyn wedyn gwnaethant gynghrair â'r Veneti yn erbyn Cesar. Er i Gesar eu gorchfygu eto, gwrthododd y Menapii a'r Morini ildio.

Yn 54 CC ymunasant a gwrthryfel Ambiorix, ac arweiniodd Cesar bum lleng yn eu herbyn. Y tro hwn, gorfodwyd y Menapii i ildio, a gosododd Cesar Commius o lwyth yr Atrebates yn frenin arnynt.

Roedd Carausius, a'i cyhoeddodd ei hun ym ymerawdwr Prydain a gogledd Gâl yn y 3g yn perthyn i'r Menapii, ac yn enedigol o Batavia.