Membranoffon
Gwedd
| Enghraifft o: | dosbarth o offerynnau cerdd |
|---|---|
| Math | offeryn cerdd |
| Rhan o | Hornbostel–Sachs, Dosbarthiad Guizzi o offerynnau cerdd, Dosbarthiad MIMO o offerynnau cerdd |
| Yn cynnwys | pilen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/011_dp |
| Thesawrws y BNCF | 1742 |
| Quora | Membranophones |
Offeryn cerdd sy'n cynhyrchu sain drwy achosi i bilen wedi'i hymestyn yn dynn ddirgrynu yw membranoffon. Mae membranoffonau yn un o'r prif ddosbarthiadau yn system Hornbostel–Sachs. Drymiau yw'r ffurfiau mwyaf cyfarwydd o membranoffonau.
Mathau
[golygu | golygu cod]Mae'r rhifau isod yn cyfeirio at y dosbarthiad yn system Hornbostel-Sachs.
- 21: Membranoffonau wedi'u taro
- Offerynnau â philen sy'n cael eu taro. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys y rhan fwyaf o fathau o ddrymiau.
- 211: Membranoffonau wedi'u taro'n uniongyrchol
- Offerynnau â philen sy'n cael eu taro â'r dwylo neu ffon
- 212: Membranoffonau wedi'u hysgwyd
- Offerynnau â philen sy'n cael eu taro gan wrthrych y tu mewn iddynt neu sydd ynghlwm wrthynt
- 22: Membranoffonau wedi'u plycio
- Offerynnau â llinyn ynghlwm wrth y bilen sy'n dirgrynu pan gaiff y llinyn ei blycio
- 23: Membranoffonau ffrithiol
- Offerynnau lle mae'r bilen yn dirgrynu o ganlyniad i ffrithiant. Mae'r drymiau hyn yn cael eu rhwbio, yn lle cael eu taro.
- 231: Membranoffonau ffrithiol â ffon
- Offerynnau lle mae'r bilen yn cael ei dirgrynu gan ffon
- 232: Membranoffonau ffrithiol â llinyn
- Offerynnau lle mae llinyn sydd ynghlwm wrth y bilen yn cael ei rwbio
- 233: Membranoffonau llaw
- Offerynnau lle mae'r bilen yn cael ei rhwbio â llaw
- 24: Membranoffonau canu (casŵau)
- Offerynnau nad ydynt yn cynhyrchu sain eu hunain, ond sy'n addasu synau eraill trwy bilen ddirgrynol. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys y casŵ.
- 241: Casŵau rhydd
- Offerynnau lle mae'r bilen yn cael ei dirgrynu gan golofn ddi-dor o aer, heb siambr
- 242: Casŵau tiwb
- Offerynnau lle mae'r bilen wedi'i rhoi mewn blwch neu diwb
- 25: Membranoffonau diddosbarth