Melyn yr ŷd
Gwedd
Chrysanthemum segetum | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Glebionis |
Rhywogaeth: | G. segetum |
Enw deuenwol | |
Glebionis segetum (L.) Fourr. | |
Cyfystyron[1] | |
|
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Melyn yr ŷd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Chrysanthemum segetum a'r enw Saesneg yw Corn marigold. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Melyn yr ŷd, Aban, Gold, Gold Mair, Gold yr ŷd, Golt, Graban yr ŷd, Rhuddos, Rhuddos y Gors a Rhuddos yr ŷd. Mae'n frodorol o diroedd Môr Canoldir.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.
Mae'n llysieuyn lluosflwydd a all dyfu i 80 cm, gyda'r dail (5–20 cm) wedi eu sbeiralu. Melyn llachar yw lliw'r blodau 3.5-5.5 cm mewn diametr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Plant List: A Working List of All Plant Species". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-23. Cyrchwyd 30 July 2014.