Melissa Hortman
Melissa Hortman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Melissa Anne Haluptzok ![]() 27 Mai 1970 ![]() Fridley, Minnesota ![]() |
Bu farw | 14 Mehefin 2025 ![]() o anaf balistig ![]() Brooklyn Park, Minnesota ![]() |
Man preswyl | Brooklyn Park, Minnesota ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr ![]() |
Swydd | member of the Minnesota House of Representatives, Speaker of the Minnesota House of Representatives, Aelod Seneddol ![]() |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Minnesota Democratic–Farmer–Labor Party ![]() |
Priod | Mark Hortman ![]() |
Gwefan | https://www.melissahortman.com ![]() |
Gwleidydd a chyfreithiwr o Minnesota, UDA, oedd Melissa Anne Hortman (ganwyd Haluptzok; 27 Mai 1970 – 14 Mehefin 2025). Gwasanaethodd fel 61ain Llefarydd Tŷ Cynrychiolwyr Minnesota o 2019 i 2025. Fel aelod o'r Blaid Ddemocrataidd-Ffermwr-Llafur, cynrychiolodd rannau gogleddol ardal fetropolitan y "Twin Cities" (Minneapolis–Saint Paul) yn Nhŷ Cynrychiolwyr Minnesota o 2005 hyd at ei llofruddiaeth yn 2025.
Llofruddiwyd Hortman a'i gŵr yn eu cartref ym Mharc Brooklyn, Minnesota, gan Vance Luther Boelter.[1] a honnir iddo hefyd geisio llofruddio seneddwr talaith Minnesota, John Hoffman, mewn saethu cysylltiedig yr un diwrnod. Dywedodd yr FBI fod cymhellion gwleidyddol i'r llofruddiaethau.[2] Mae Boelter yn adnabyddus am fod yn gefnogwr i Donald Trump.[3]
Cafodd Hortman ei geni fel Melissa Anne Haluptzok yn Fridley, Minnesota. [4] Cafodd ei magu ym Mharc Spring Lake ac Andover, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Blaine yn Blaine, Minnesota, ym 1988. [5]
Derbyniodd Hortman radd Baglor yn y Celfyddydau (magna cum laude) mewn athroniaeth a gwyddor wleidyddol o Brifysgol Boston ym 1991.[6] [7]
Gweithiodd Hortman fel intern yn Senedd yr Unol Daleithiau i Al Gore a John Kerry. Denodd sylw'r cyhoedd gyntaf ym 1997, fel cyfreithiwr ar achos yn ymwneud â gwahaniaethu mewn tai gan landlordiaid; enillodd wobr sifil o $490,181 i'w chleient. [8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Van Oot, Torey (14 Mehefin 2025). "Suspect identified in fatal shooting of Minnesota lawmaker". Axios (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2025. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ "Vance Boelter went to other lawmakers' homes the night he killed Rep. Hortman, wounded Sen. Hoffman, FBI says". CBS News (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mehefin 2025.
- ↑ "Friends say Minnesota shooting suspect was deeply religious and conservative". AP News (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Mehefin 2025.
- ↑ "Melissa Hortman". Minnesota Historical Election Archive. Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- ↑ Blake, Matthew (2025-06-14). "Melissa Hortman obituary: Remembering her determination, humor". MinnPost (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-15.
- ↑ "Hortman, Melissa - Legislator Record - Minnesota Legislators Past & Present". www.lrl.mn.gov. Cyrchwyd April 12, 2023.
- ↑ Salisbury, Bill (December 29, 2018). "After engineering the DFL suburban wave, Melissa Hortman sets sights on 2019 legislative session". Twin Cities (yn Saesneg). Cyrchwyd January 21, 2019.
- ↑ Featherly, Kevin (2018-11-17). "Lawyers take top two House leadership posts". Minnesota Lawyer (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mehefin 2025.
- Cyfreithwyr benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfreithwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Genedigaethau 1970
- Gwleidyddion benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Marwolaethau 2025
- Merched yr 21ain ganrif