Melanie C

Oddi ar Wicipedia
Melanie C
FfugenwMel C, Sporty Spice Edit this on Wikidata
GanwydMelanie Jayne Chisholm Edit this on Wikidata
12 Ionawr 1974 Edit this on Wikidata
Whiston Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Label recordioVirgin Records, Bonnier Amigo Music Group AB Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Bird College
  • Fairfield High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, entrepreneur, canwr, bardd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, actor, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, Britpop, roc poblogaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.melaniec.net Edit this on Wikidata

Cantores boblogaidd o Loegr yw Melanie C neu Mel C (ganwyd 12 Ionawr 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel canwr-gyfansoddwr, cerddor, entrepreneur, bardd a pheroriaethwr.

Fe'i ganed yn Whiston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr ar 12 Ionawr 1974.[1][2]

Mae hi'n un o bum aelod y Spice Girls, lle cafodd y llysenw Sporty Spice. Ers 1996, mae Melanie wedi gwerthu dros 105 miliwn o recordiau, gan gynnwys 85 miliwn o gopïau gyda'r grŵp, ac 20 miliwn o albymau, senglau fel unigolyn, ac mae wedi ennill dros 325 o ardystiadau byd-eang (yn cynnwys nifer o ddiemwntau), gan gynnwys 40 o ardystiadau arian, aur a phlatinwm, fel artist unigol.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Melanie Jayne Chisholm oedd yr unig blentyn yn y teulu. Priododd ei rhieni ar 12 Ionawr 1971 ac ym 1978, ysgarodd y ddau, pan oedd Melanie yn bedair oed a hanner. Gweithiodd ei thad, Alan Chisholm, fel ffitiwr yng Nghwmni Otis Elevator ac roedd ei mam, Joan O'Neill, yn gweithio fel ysgrifenyddes a PA; roedd wedi bod yn canu mewn bandiau cerdd ers oedd yn 14. Magwyd Melanie C yn Widnes, Sir Gaer lle mynychodd Ysgol Uwchradd Fairfield.

Wedi'r ysgol, astudiodd ar gyfer cwrs diploma mewn dawns, canu, drama, a theatr gerddorol yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Doreen Bird yn Sidcup, De-ddwyrain Llundain. Tra yn y coleg, atebodd hysbyseb yn The Stage gan Chris a Bob Herbert, a oedd yn bwriadu ffurfio grŵp merched newydd, yn ddiweddarach i fod yn Spice Girls. Enillodd gymwysterau addysgu tap a dawns theatr fodern gyda Chymdeithas Imperial Athrawon Dawnsio ond gadawodd y coleg ychydig cyn cwblhau ei chwrs tair blynedd.

Y Spice Girls yn 2007

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Melanie C ei gyrfa unigol ar ddiwedd 1998 trwy ganu gyda'r canwr roc o wledydd Prydain, Bryan Adams, gyda'r gân "When You're Gone". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, Northern Star, yn 1999, gan gyrraedd rhif 1 yn Sweden a rhif 4 ar Siart Albymau y DU. Cafodd ei ardystio'n rhyngwladol gyda saith ardystiad platinwm a thair aur, gan gynnwys Platinwm triphlyg gan y Diwydiant Ffonograffig Prydeinig, gan werthu dros 4 miliwn o gopïau ledled y byd, a dod yn albwm solo gorau unrhyw aelod o'r Spice Girls.[3]

Daeth bedair gwaith yn y "prif 5" ac yn yr 20 sengl uchaf: cyrhaeddodd dau ohonynt y rhif 1 yn y DU. Cafodd yr albwm ei ardystio'n aml-blatinwm ledled y byd.[4]


Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Melanie C". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. "BPI Certified Awards". British Phonographic Industry. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2009. Cyrchwyd 4 Medi 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "UK Charts > Melanie C". Official Charts Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr2010. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Check date values in: |archivedate= (help)