Meir Dizengoff

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Meir Dizengoff1

Meir Dizengoff ac Avraham Shapira yn arwain y Purim Adloyada yn Tel Aviv. Dylid cofio symbolaeth o Iddew ar gefn ceffyl - rhywbeth oedd yn anghyfreithiol yn y byd Mwslemaidd ac anghyffredin yn Ewrop

Ganed Meïr Dizengoff (Hebraeg: מאיר דיזנגוף, Rwsieg: Меер Янкелевич Дизенгоф), ar 25 Chwefror 1861 yn Akimovici, Bessarabia, Ymerodraeth Rwsia (bellach, Echimăuți yn Moldofa) a bu farw ar 23 Medi 1936. Roedd yn un o arloeswyr Chofefei Tsion (Hebraeg: חובבי ציון‬; yn llythrennol "Carwyr Seion"). Roedd yn Seinoist gweithredol, yn ddyn busnes llwyddiannus, sefydlydd sawl menter ariannol a maer gyntaf dinas Tel Aviv.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflun o Meir Dizengoff yn marchogaeth ar Rhodfa Rothschild Boulevard, Tel Aviv

Symudodd teulu Dizengoff i Kishinev (bellach Chișinău, prifddinas Moldofa) yn 1878. Astudiodd yn y politechneg yno ac ymunodd â'r fyddin Rwsiaidd gan wasanaethu yn Iwcrain ac yno y cyfarfu â'i ddarpar wraig, Zina Brenner. Symudodd i Odessa lle ymunodd gyda'r grŵp chwyldroadol, tanddaearol, Narodnaya Volya. Yn 1885 arestiwyd efo mewn gwrthdystiad ac yno y cwrddodd â Leo Pinsker ac Ahad Ha'am daeth gan ymuno â'r Hovevei Zion. Wedi ei ryddhau o'r carchar, aeth i Brifysgol Paris lle astudiodd Cemeg Peirianyddol. Daeth yn gynrychiolydd yn y Gyngres enwog Seinostaidd gyntaf Basel yn 1887.[1]

Ym Mharis cyfarfu â'r diwydiannydd o Iddew, Edmond de Rothschild. Danfonodd Rothschild efo i Balesteina (a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid) er mwyn sefydlu ffowndri wydr yn Tantura yn 1892. Yn anffodus, methiant bu'r fenter oherwydd ansawdd amhur y tywod. Dychwelodd i Kishinev lle cyfarfu â Theodore Herzl. Er fod Dizengoff yn anghytuno â phenderfyniad Herzl i gefnogi'r fenter yn y 6ed Gyngres Seinoistaidd i sefydlu gwladfa Iddewig yn Uganda, daeth y ddau yn gyfeillion ac roedd Dizengoff yn gefnogwr brwd ohono.

Palesteina[golygu | golygu cod y dudalen]

Tu fewn tŷ Dizengoff nawr Neuadd Annibyniaeth lle datganodd Ben Gurion annibyniaeth Israel ar 14 Mai 1948

Yn 1905 symudodd Dizengoff i Balesteina oherwydd ei ddaliadau Seionistaidd cryf gan fyw yn Jaffa. Sefydlodd gwmni Geulah a brynodd tir oddi ar yr Arabiaid a daeth mewnforio offer peirianyddol, yn enwedig ceir. Sefydlodd hefyd gwmni cychod yn ei enw, ac roedd yn Gonswl i Wlad Belg. Pan glywodd Dizengoff fod Iddewon yn trefnu i brynu tir i adeiladu maestref newydd Iddewig, sefydlodd bartneriaeth gyda chwmni Ahuzat Bayit ("adeiladu tai") a brynodd dir ar dwyni tywod nTel Aviv, nid nepell o Jaffa, a'u becynnu i'w gwerthu'n barseli i'r gwladychwyr. Enw'r maestref newydd yma a sefydlwyd yn 1909 oedd Ahuzat Bayit, ond newidiwyd yr enw y flwyddyn wedymn i Tel Aviv, ("bryn y ffynnon") ac teitl fersiwn Hebraeg o lyfr enwog Altneuland Herzl.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf diarddelwyr ef a holl Iddewon Tel Aviv o'r dref gan y Twrciaid. Dychwelasant wedi'r Rhyfel pan oedd Twcri, bellach, wedi colli ei hymerodraeth a Phrydain bellach yn rheoli Palesteina.

Maer Tel Aviv[golygu | golygu cod y dudalen]

Angladd Meir Dizengoff, 24 Medi 1936, Tel Aviv

Daeth Dizengoff yn bennaeth cynllunio trefol Tel Aviv yn 1911 ac yn faer ar y dref pan ddaeth hi'n ddinas yn 1922. Roed yn Faer hyd nes ei farwolaeth yn 1936 (heblaw am rhwng 1925-28). Rhwng 1927 a 1929, ef oed pennaeth y mudiad Seionaidd.

Fel Maer goruchwyliodd gyfnod o dwf parhaus gyda'r boblogaeth yn tyfu o 14,000 yn 1920 i 150,000 yn 1937 (blwyddyn wedi ei farwolaeth).[2]

Roedd Dizengoff yn awyddus i hybu economi a diwylliant y ddinas newydd a ddaeth yn symbol o lwyddiant modernaidd Seionistiaeth. Sefydlodd Ffair Lefant Levant Fair (Hebraeg: Yarid HaMizrah) gyntaf yn 1932 a oedd yn ffair fasnach ac hamdden. Pan ddechreuodd y Gwrthryfel Arabaidd yn 1936, caewyd porthladd Jaffa i geisio stopio'r mewnfudo gan Iddewon oedd yn dianc rhag Hitler. Adeiladodd Dizengoff borthladd yn Tel Aviv. Llwyddodd i agor y porthladd y flwyddyn honno gyda'r geiriau, "Foneddigion a foneddigesau, gallaf gofio adeg pan nad oedd gan Tel Aviv ei phorthladd. Bu farw ar 23 Medi 1936.

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Tai newydd, cytiau, wrth adeiladu'r ddinas newydd ar y twyni tywod, 1934

In 1930, wedi marwolaeth ei wraig, cymunroddodd Diengoff ei eu tŷ ar 16 Rhodfa Rothschild (שדרות רוטשילד Sderot Rotshild) i'r ddinas gan ofyn iddo droi'n amgueddfa. Gwnaed ymhelaethau sylweddol iddo a ddaeth yn Amgueddfa Celf Fodern Tel Aviv yn 1932. Symudodd yr amgueddfa i'w lleoliad cyfredol yn 1971. Ar 14 Mai 1948, datganodd David Ben-Gurion ddatganiad annibyniaeth Israel o'r tŷ hwn. Ceir yno bellach amgueddfa ac fe'i elwir yn Neuadd Annibyniaeth.

Parc Meir גן מאיר Gan Meir
Stryd Dizengoff רחוב דיזנגוף Rehov Dizengoff
'lehizdangeff' mae'r ferf Hebraeg yma yn golygu "i gerdded lawr Dizengoff [yr hen brif stryd]," h.y. i fynd allan ar noson yn y dre

Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd â Zina (1872-1930) yn Alexandria, Yr Aifft yn 1893. Roedd hi'n ferch i rabbi ac hi ei hun yn athro Ffrangeg. Bu gan y cwpwl ferch ond bu farw'r faban bach dau fis oed. Tra bod ei gŵr yn faer Tel Aviv, mae'n cymryd byw ac yn annog y celfyddydau y fwrdeistref newydd. Maent wedi'u claddu gyda'i gilydd ym Mynwent Trumpeldor. Ym 1938, cysegrwyd Sgwâr Zina Dizengoff yn Tel Aviv.

Enw'r Dizengoff yw cyfenw Bwlgareg Dizeng, enw hynafol a gynhaliwyd gan rhaglaw Omourtag Khan (814-831).[3]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.jewishvirtuallibrary.org/meir-dizengoff
  2. https://www.jewishvirtuallibrary.org/tel-aviv-from-spring-hill-to-independence
  3. https://nauka.bg/forum/?showtopic=375