Meini Gwagedd
| Cymru | |
| Enghraifft o: | drama lwyfan fer |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1944 |
| Awdur | James Kitchener Davies |
| Cyhoeddwr | Hugh Evans & Feibion |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
| Dynodwyr | |
Drama fer fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandybïe 1944 ydi Meini Gwagedd gan J. Kitchener Davies. "Profiad hyfryd...oedd dod ar draws y ddrama anghyffredin hon", medd y beirniad D. Matthew Williams yn y Beirniadaethau, gan fynd ymlaen i ganmol y ffaith fod y dramodydd "yn ceisio creu rhywbeth newydd ym myd y ddrama Gymraeg".[1] Fel "campwaith barddonol" y cyfeiriodd Eurosrwydd at y ddrama, yn Y Faner.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Gŵr Glangors-fach
- Mari - ei ferch
- Shani - ei ferch
- Ifan
- Rhys
- Elen
- Sal
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Ar gychwyn y ddrama gyhoeddedig, fe ddyfynir o Lyfr Eseia pennod 34 adnodau 10-15, sy'n disgrifio gwlad wedi'i ddinistrio'n llwyr, lle mae natur wyllt wedi ad-ennill y tir. Mae'r teitl Meini Gwagedd yn cael ei gynnwys yn un o'r adnodau, sy'n cyfeirio at y "meini gwag" neu'r "meini dryswch" a ddefnyddir yn symbolaidd gan Dduw i fesur dinistr a gwacter.[1] Mae'r bennod hon yn broffwydoliaeth o farn Duw ar genedl sydd wedi gwrthryfela, a'i gadael yn wag ac yn adfail.
Disgrifir y cymeriadau sef "tyddynwyr normal" fel "rhithiau", pob un "ar grwydr o'u beddau, ac ar aelwyd Glangors-fach ar nos-ŵyl Fihangel" yn ystod canol yr 20fed ganrif.[1] Fe gyfyd y llen "ar adfeilion Glangors-fach tan leuad Fedi".[1]
Mae'r ddrama yn gofyn am dechnegau goleuo a llwyfannu gofalus, lle mae'r cymeriadau yn cael eu cyflwyno o dan olau o liw arbennig, ac yna'r diflannu pan fo'r golau'n diffodd "trwy amrantiad o dywyllwch" i ddadlenu cymeriadau gwahanol. Rhennir y cymeriadau yn ddwy adran - "A" a "B" gyda'r tad [Gŵr Glangors-fach] a'i ddwy ferch yn A - y genhedlaeth hŷn, a'r brodyr a chwiorydd eraill [Sal a Rhys / Elen ac Ifan] yn B, y genhedlaeth iau.[1]
Sefydlir bod y tad a'i ddwy ferch yn byw yn Glangors-fach cyn y brodyr a chwiorydd eraill, heb fedru "dianc nac i'r Dre nac i'r bedd rhag y gors..."[1]
Mae genhedlaeth hŷn yn gwylio'r genhedlaeth iau, yn ddiarwybod iddynt. Mae'r tad wedi melltithio'r tir a'r tyddyn am i'w ddwy ferch gefnu ar eu treftadaeth a mynd i fyw fel "lâdis" i'r dref. Golyga'r felltith bod yn rhaid iddynt ddioddef ddirmyg eu tad, hyd dragwyddoldeb. Ond mae'r felltith hefyd yn syrthio ar y genhedlaeth iau a gymerodd y tir a'r tyddyn ar brydles oddi ar y ddwy ferch, wrth i'r cyfan chwalu o'u cwmpas. Penyd y genhedlaeth iau ydi gorfod ail-fyw penyd y genhedlaeth hŷn.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd J. Kitchener Davies eisoes wedi ennill y Wobr Ariannol am Y Brif Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd 1934 gyda'i ddrama ddadleuol Cwm Glo, ac wedi mynd ati i'w llwyfannu hi ei hun, drwy greu cwmni theatr.
Honnir mai Cors Caron ger Tregaron yw'r "gors" dan sylw yn y ddrama.[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Cydweithredol Troed y Rhiw yn 2014, gydag addasiad wedi'i gyfoesi gan Euros Lewis, o dan gyfarwyddyd Roger Owen.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 5 6 7 Davies, James Kitchener (1945). Meini Gwagedd. Hugh Evans & Feibion.
- ↑ megtouhiggraphics, Author (2018-05-12). "Information is power re-do : Kitchener Davies research". Meg Touhig Graphics Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-30.
- ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-06-30.