Neidio i'r cynnwys

Megan Jones Roberts

Oddi ar Wicipedia
Megan Jones Roberts
Megan, tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2026
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru


Ymgyrchydd diwylliannol yw Megan Jones Roberts.

Megan oedd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2026.[1] Mae’n dyst i’w hymdrechion clodwiw i godi dros £140,000 tuag at elusennau, a’i gwaith diflino dros y diwylliant Cymraeg yn ei hardal.

Bu’n gweithio i’r Cambrian News am 20 mlynedd. Yn 2026, hi oedd Cadeirydd papur bro Yr Angor yn Aberystwyth a llywydd cangen Merched y Wawr Aberystwyth. Hi hefyd yw trefnydd Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth a Chadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Derbyniwyd hi i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Magwyd Megan yn Nhal-garreg, ger Llandysul, Ceredigion, yn un o bedwar o blant. Mynychodd Ysgol Uwchradd Aberaeron ac yna Coleg Addysg Bellach, Aberystwyth, i astudio teipio a llaw-fer. Mae’n briod â Peter ac mae ganddynt ferch o'r enw Meinir. Yn 2024, cododd symiau mawr o arian i elusen drwy drefnu cyngerdd ym Mharc Llety. Ar y pryd roedd hi'n cael triniaeth am ganser.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Yr Angor 479, Chwefror 2026, t. 5
  2. Julie McNicholls Vale (28 Mai 2024). "Woman raises £6,800 for causes close to her heart during cancer treatment". Cambrian News (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Chwefror 2026.