Maxine Hughes
| Maxine Hughes | |
|---|---|
| Ganwyd | Hydref 1979 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu o Gymru yw Maxine Hughes (ganwyd Hydref 1979), sy'n byw a gweithio yn Washington DC.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mae'n dod yn wreiddiol o Gonwy a mynychodd Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn. Aeth i astudio yn Ffrainc ac yna'r Unol Daleithiau. Cystadlodd mewn jiwdo ac acrobateg dros Gymru, ac aeth i'r Unol Daleithiau ar ysgoloriaeth bêl-droed prifysgol.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Treuliodd nifer o flynyddoedd yn yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer swydd gyda’r BBC ar raglen Doctor Who Confidential. Aeth ymlaen i weithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC yn Llundain. Bu hefyd yn gweithio fel golygydd newyddion i sianel TRT World yn Nhwrci.[2]
Yn ystod ei gyrfa mae wedi ymdreiddio gyda grwpiau eithafol, a chyfweld â phobl proffil uchel, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.[1] Fe ohebodd ar farwolaeth George Floyd ar gyfer BBC Radio Cymru mewn rhaglen arbennig Ddim yn Ddu a Gwyn.[3] Ers 2024 mae wedi cyflwyno rhaglenni dogfen achlysurol ar gyfer S4C o dan y teitl Byd Eithafol.[4] Yn 2025 gohebodd i Newyddion S4C ar y tanau gwyllt yn Los Angeles.[5]
Yn 2021 daeth yn adnabyddus iawn am ei rhan fel 'cyfieithydd' Cymraeg ar y rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham. Roedd y rhaglen yn dangos hanes clwb pêl-droed Wrecsam a brynwyd gan yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney.[6]
Fe'i hurddwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.[7] Yng Ngorffennaf 2025 cyhoeddwyd mai Maxine fyddai Arweinydd Cymru a’r Byd yn yr Eisteddfod honno.[8]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Maxine yn byw yn Washington DC gyda'i gwraig, Sally. Mae ganddynt ddau fab, Iori a Manu.[9] Yng Ngorffennaf 2025, datgelodd Maxine ei bod wedi derbyn triniaeth cemotherapi am ganser y fron ers dechrau'r flwyddyn, ac ei bod am gael llawdriniaeth brondrychiad.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Yr Eisteddfod yn cyhoeddi arweinydd Cymru a'r Byd | Eisteddfod". Eisteddfod Genedlaethol. 2025-06-30. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ Jones, Mari (2016-07-17). "Conwy woman caught up in failed Turkish military coup". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "BBC Radio Cymru - Ddim yn Ddu a Gwyn". BBC. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ (yn cy) Byd Eithafol, https://www.bbc.co.uk/iplayer/episodes/p0j6m1y1/byd-eithafol, adalwyd 2025-07-02
- ↑ "Tanau LA: Profiadau rhai o'r Cymry sydd yno". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-02. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "How a journalist got to tease Wrexham FC's star owners". BBC News (yn Saesneg). 2021-05-19. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "Eisteddfod 2025: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 2025-06-01. Cyrchwyd 2025-06-01.
- ↑ "Yr Eisteddfod yn cyhoeddi arweinydd Cymru a'r Byd | Eisteddfod". Eisteddfod Genedlaethol. 2025-06-30. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "Dwy fam: 'Dim ffiniau i'r Gymraeg' yn America". BBC Cymru Fyw. 2020-12-15. Cyrchwyd 2025-07-02.
- ↑ "'Teimlad swreal': Y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn trafod ei thriniaeth canser y fron". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-07. Cyrchwyd 2025-07-07.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Maxine Hughes ar wefan Internet Movie Database
- Maxine Hughes ar X