Max Whitlock

Oddi ar Wicipedia
Max Whitlock
Ganwyd13 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
Hemel Hempstead Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethjimnast artistig Edit this on Wikidata
Taldra1.67 metr Edit this on Wikidata
Pwysau56 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, OBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.maxwhitlock.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Jimnast artistig Seisnig yw Max Antony Whitlock, MBE (ganwyd 13 Ionawr 1993)[1]. Mae e'n enillydd medal Olympaidd chwe-amser (o gwmpas, tîm, ymarfer llawr a thair gwaith ar y ceffyl pommel). Mae tair medal aur a thair efydd gyda fe. Mae e'n enillydd medal wyth-amser y byd ar yr un cyfarpar â thair aur a pum arian.

Cafodd Whitlock ei eni yn Hemel Hempstead. Aelod y Clwb Gymnasteg South Essex yw ef. Gyda’i wraig Leah a’i brawd hi, yr hyfforddwr Scott Hann, mae wedi sefydlu Clwb Gymnasteg Max Whitlock.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Daeth Whitlock i amlygrwydd pan enillodd y fedal efydd wrth geffyl pommel yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012. Enillodd arian ar y cyfarpar ym Mhencampwriaethau'r Byd 2013. Enillodd y llawr a theitl unigol o gwmpas Gemau'r Gymanwlad 2014.

Yn 2014, enillodd Whitlock y fedal arian yn y gystadleuaeth gyffredinol ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Artistig y Byd 2014. Ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Artistig y Byd 2015 yn Glasgow, yr Alban, daeth Whitlock y dyn cyntaf o Brydain i ennill medal aur ym Mhencampwriaeth y Byd.

Daeth yn enillydd medal aur gyntaf erioed Prydain mewn gymnasteg artistig pan enillodd ymarferion llawr dynion a cheffylau pommel yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016. [2] [3] Gyda deuddeg medal a phum teitl ym mhencampwriaethau Olympaidd a byd, Whitlock yw'r gymnastiwr mwyaf llwyddiannus yn hanes ei genedl, a'r gweithiwr ceffylau pommel mwyaf llwyddiannus yn hanes gymnasteg.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. GRO reference: February 1993, Register Number A33, District and subdistrict 5301A, Entry 260
  2. "Rio Olympics 2016: Max Whitlock wins second gold" (yn Saesneg). 14 Awst 2016. Cyrchwyd 14 Awst 2016.
  3. "Simone Biles wins again as Max Whitlock earns Great Britain's first ever gymnastics golds". Rio2016.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-22. Cyrchwyd 15 Awst 2016.
  4. "Live Max Whitlock wins gold for Team GB in pommel horse - live reaction to gymnastics success". Telegraph (yn Saesneg). 1 Awst 2021.