Max Clifford

Oddi ar Wicipedia
Max Clifford
Ganwyd6 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Kingston upon Thames Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 2017 Edit this on Wikidata
Perry Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, swyddog cyhoeddusrwydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata

Roedd Maxwell Frank Clifford (6 Ebrill 194310 Rhagfyr 2017) yn swyddog cyhoeddusrwydd Seisnig. Roedd yn gymeriad dadleuol am ei fod yn cynrychioli cleientiaid amhoblogaidd yn aml (fel pobl a gyhuddwyd neu a gafwyd yn euog o droseddau) neu'n gweithio fel asiant at gyfer pobl sy'n gwerthu straeon "cusanu-a-dweud" wrth y papurau newydd tabloid.

Fe'i arestiwyd yn Rhagfyr 2012 gan swyddogion yr Heddlu Metropolitan ar amheuaeth o droseddau rhywiol; yn rhan o Operation Yewtree. Aeth o flaen ei well yn Mawrth 2014[1] ac fe'i gafwyd yn euog o saith achos o ymosodiad anweddus ar pedwar merch a menyw rhwng 14 ac 19 oed. Ar 2 Mai 2014 fe'i ddedfrydwyd i wyth mlynedd yn y carchar,[2][3] ac o 7 Tachwedd 2014 fe'i garcharwyd yn HM Prison Littlehey.[4] Bu farw yn Rhagfyr 2017 dridiau ar ôl dioddef trawiad ar y galon.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Richard Lister. "Max Clifford guilty of eight indecent assaults". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 28 Ebrill 2014.
  2. "R v Max Clifford". Crimeline. Cyrchwyd 2 Mai 2014.
  3. "Max Clifford jailed for eight years". BBC News. 2 Mai 2014. Cyrchwyd 2 Mai 2014.
  4. "Max Clifford loses appeal over eight-year jail sentence for sex offences". The Independent. 7 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-03. Cyrchwyd 2017-12-10.
  5. Max Clifford wedi marw , Golwg360, 10 Tachwedd 2017.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]