Max Beerbohm

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Max Beerbohm
Max Beerbohm 1901 retouched.jpg
Ganwyd 24 Awst 1872 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mai 1956 Edit this on Wikidata (83 oed)
Rapallo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth cartwnydd dychanol, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, artist dyfrlliw, arlunydd, beirniad llenyddol, darlunydd, newyddiadurwr, digrifwr Edit this on Wikidata

Llenor a gwawdluniwr o Sais oedd Syr Henry Maximilian "Max" Beerbohm (24 Awst 187220 Mai 1956).[1]

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Henry Maximilian Beerbohm yn Llundain, yr ieuangaf o naw plentyn i Julius Ewald Beerbohm, masnachwr o Lithwania. Roedd ganddo dri hanner brawd (Ernest, Herbert, a Julius) ac un hanner chwaer (Constance) o briodas gyntaf ei dad, a phedair chwaer hŷn (Agnes a Dora, a Marie a merch arall a fuont yn farw'n ifanc) o'i ail briodas.

Addysg a gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynychodd Max Ysgol Charterhouse, ysgol fonedd o fri yn Godalming, Surrey. Yno fe fagodd ei ddoniau drwy arlunio a gwawdio'i athrawon a'i gyd-ddisgyblion. Aeth i Goleg Merton, Rhydychen yn 1890, a threuliodd ei gyfnod yn y brifysgol yn cymdeithasu ac yn danfon ysgrifau a gwawdluniau i gylchgronau Llundeinig. Gadawodd Rhydychen yn 1894 heb ennill ei radd.[2]

Enwogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â'i lên a'i gelf, enillodd Max enw iddo'i hun yn gynnar am fod yn ddandi ac yn ddyn ffraeth a ffasiynol. Yn 1898, daeth Beerbohm yn feirniad theatr y Saturday Review, gan olynu George Bernard Shaw yn y swydd honno. Ysgrifennodd mwy na 450 o adolygiadau ac ysgrifau beirniadol yn ei 12 mlynedd i'r Review.

Yn 1910 priododd Florence Kahn, actores Americanaidd, a symudant i Rapallo yn yr Eidal. Yno, ysgrifennodd ei unig nofel, Zuleika Dobson (1911). Dychwelodd Max a'i wraig i Loegr yn y cyfnod 1915–19. Cyhoeddodd gasgliad o straeon byrion, Seven Men, yn 1919.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 1920au, dechreuodd Beerbohm roi'r gorau i'w waith llenyddol. Cyhoeddwyd ei holl ryddiaith a'i wawdluniau mewn 10 cyfrol gan Heinemann rhwng 1922 a 1928. Dychwelodd i Loegr tua 1936, a chafodd ei urddo'n farchog yn 1939. Treuliodd Max a Florence yr Ail Ryfel Byd yn Lloegr. Dychwelodd at ysgrifennu pan gafodd ei wahodd gan y BBC i ddarlledu ar y radio. Roedd ei ysgrifau difyr yn boblogaidd, a chawsant eu casglu yn y gyfrol Mainly on the Air (1946). Bu farw Florence yn 1951, ac yn ddiweddarach bu Almaenes o'r enw Elisabeth Jungmann yn gofalu am Max. Priodasant ychydig o wythnosau cyn ei farwolaeth, yn Rapallo.[2] Cleddir ei ludw yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Sir Max Beerbohm. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ionawr 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Max Beerbohm" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ionawr 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Behrman, S. N. Portrait of Max: An Intimate Memoir of Sir Max Beerbohm (Random House, 1960).
  • Cecil, David. Max: A Biography (1964).
  • Hall, N. John, Max Beerbohm: A Kind of Life (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2002).