Matilde Hidalgo

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Matilde Hidalgo Navarro)
Matilde Hidalgo
GanwydDeifilia Matilde Inés Hidalgo Navarro Edit this on Wikidata
29 Medi 1889 Edit this on Wikidata
Loja Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata
Guayaquil Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ecwador Ecwador
Alma mater
  • Prifysgol Cuenca
  • Prifysgol Ganolog Ecuador Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, bardd, gwleidydd, swffragét, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddNational Assembly Deputy Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Ecwador oedd Matilde Hidalgo de Procel (29 Medi 1889 - 20 Chwefror 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, meddyg, bardd a gwleidydd.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Matilde Hidalgo de Procel yn Loja, Ecwador. Hi oedd y fenyw gyntaf i fanteisio ar yr hawl i bleidleisio yn Ecwador (ac yn America Ladin) a hefyd y cyntaf i dderbyn Doethuriaeth mewn Meddygaeth. Ganed hi i deulu tlawd o chwech o blant, a phan fu farw ei thad, Juan Manuel Hidalgo, bu’n rhaid i’w mam, Carmen Navarro weithio’n eithriadol o galed fel gwniadwraig er mwyn eu cynnal.  Priododd gyfreithiwr, Fernando Procel, ddiwedd yr 1920au a chawsant ddau o blant, Fernando a Gonzalo Procel. Cafodd ei pharlysu yn 1973 o ganlyniad i strôc a bu farw yn Guayaquil ar 20 Chwefror 1974. Wedi ei marwolaeth, sefydlwyd amgueddfa yn Loja yn seiliedig ar ei hatgofion a’r hyn a gyflawnodd yn ystod ei bywyd.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Matilde Hildago yn ysgol The Immaculate Conception of the Sisters of Charity. Ei dymuniad oedd parhau gyda’i haddysg ond ni chafodd hyn dderbyniad da o fewn ei chymuned, a gwnaeth llawer iddi deimlo’n esgymun. Derbyniodd gefnogaeth gan ei mam fodd bynnag a llwyddodd i sicrhau lle yn y Colegio Bernardo Valdivieso. Hi oedd y ferch gyntaf i raddio o ysgol uwchradd. Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd ysgrifennu cerddi a pharhaodd i wneud hynny pan oedd yn y coleg, gan ysgrifennu ar bynciau megis, gwyddoniaeth, edmygedd o fyd Natur, teyrnged i bobl a dyddiadau nodedig, a hefyd ysgrifennodd am fyd merched. Gwrthodwyd ei chais i astudio ym Mhrifysgol Ganolog Ecwador yn wreiddiol oherwydd ei bod yn ferch ac felly teithiodd i Azay lle graddodd gydag anrhydedd mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Cuenca. Dychwelodd i Brifysgol Ganolog Ecwador yn 1921 ac ar sail ei gradd baglor, cafodd ei derbyn i astudio ar raglen doethuriaeth. Enillodd achos cyn etholiad arlywyddol Ecwador 1924 a ganiataodd iddi fwrw pleidlais yn yr etholiad hwnnw.  Drwy hynny daeth Ecwador i fod y wlad gyntaf ar y cyfandir i ganiatáu hawliau pleidleisio i ferched. Daeth Matilde i fod y fenyw gyntaf i gael ei hethol ar gyngor Machala, ac Is-lywydd cyntaf Cyngor Machala. Yn 1941 hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i swydd gweinyddydd cyhoeddus yn Loja. Parhaodd i weithio ym myd meddygaeth yn Guayaquil hyd 1949 pan dderbyniodd ysgoloriaeth i astudio Pediatreg, Niwroleg a Dieteteg yn yr Ariannin.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wilcox-Lee, Naomi (2014-11-06). "Mathilde Hidalgo de Procel – First in Everything" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-25.
  2. Montano, Joaquin (2019-01-09). "Matilde Hidalgo de Procel: biografía, aportes y obras". Lifeder (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-11-26.
  3. "Hidalgo de Procel Matilde - Personajes Históricos". Enciclopedia Del Ecuador (yn Sbaeneg). 2016-04-13. Cyrchwyd 2019-11-25.

[[