LHDT yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Materion LHDT yng Nghymru)

Mae agweddau cymdeithasol yng Nghymru tuag at gyfunrywioldeb, deurywioldeb a thrawsrywedd yn weddol ryddfrydol, yn debyg i weddill y Deyrnas Unedig a Gorllewin Ewrop. Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yng Nghymru yn llai parod i dderbyn pobl LHDT na phobl yn rhannau eraill o Brydain.

Darganfu arolwg yn 2006 gan y mudiad Stonewall fod 25% o bobl LHD yng Nghymru wedi cael eu diswyddo oherwydd eu rhywioldeb – canran uwch o lawer na'r cyfartaledd trwy Brydain – er gwaethaf deddf gwrth-wahaniaethu a ddaeth i rym yn 2003.[1]

Yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru yn 2007 roedd y nifer o droseddau casineb yn erbyn cyfunrywiolion yng Nghymru ar gynnydd, gyda phedwar o bob pump o aelodau'r gymuned hoyw yn dioddef ymosodiadau geiriol tra bod un o bob tri yn dioddef ymosodiad treisgar; yn ôl amcangyfrif gan y Swyddfa Gartref dim ond 10% o'r rhai sy'n dioddef ymosodiadau am eu bod yn hoyw sy'n riportio'r trosedd i'r heddlu.[2]

Cynhelir Gŵyl Mardi Gras yng Nghaerdydd yn flynyddol (er ni fydd yn debygol o gael ei chynnal yn 2008) ers 1999, pan oedd 6000 o fynychwyr; yn 2007 cynyddodd nifer y mynychwyr i 40 000.[3] Ym Mehefin 2009, cynhaliwyd Gŵyl Balchder Abertawe yn ninas Abertawe am y tro cyntaf erioed. Mynychodd dros 3,000 o bobl yr ŵyl hon.

Rhestr Cymry LHDT[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]