Masiff yr Wyddfa
| Math | masiff |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,085 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0846°N 4.0872°W |
| Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |

Mae Masiff yr Wyddfa, neu Gadwyn yr Wyddfa, yn un o'r tri grŵp o fynyddoedd yn Eryri yng ngogledd Cymru, sy'n cynnwys mynyddoedd dros 3,000 troedfedd (914 m) o uchder. Mae'n cynnwys yr ardal rhwng Beddgelert, Pen-y-Pass a Llanberis. Mae wedi'i amgylchynu gan y Glyderau i'r gogledd-ddwyrain, Moel Siabod i'r dwyrain, y Moelwynion i'r de, Moel Hebog, Crib Nantlle a Mynydd Mawr i'r gorllewin, a chan dir gwastad sy'n arwain i lawr i Gaernarfon ac Afon Menai i'r gogledd-orllewin.[1][2]
Pedol yr Wyddfa yw'r enw a roddir i'r siap hanner cylch o gribau a chopaon ar ochr ddwyreiniol Yr Wyddfa, hynny yw - yn gwynebu i lawr Dyffryn Mymbyr i gyfeiriad Capel Curig. Y copaon yn y Bedol yw rhai Y Lliwedd, yr Wyddfa, Garnedd Ugain a Chrib Goch.
Copaon
[golygu | golygu cod]
Mae'r holl gopaon a restrir yma yn gopaon Hewitt; mae'r rhai sydd wedi'u marcio â seren hefyd yn gopaon Marilyn.
- Yr Wyddfa * – 1,085 m
- Carnedd Ugain, a elwir hefyd Crib y Ddysgl – 1,065 m
- Y Grib Goch – 923 m
- Y Lliwedd * – 898 m
- Yr Aran * – 747 m
- Moel Eilio – 726 m
- Moel Cynghorion * – 674 m
- Foel Gron – 629 m

- Llinellau du: cribynnau
- Llinellau coch dotiog: llwybrau
- Llinellau oren: ffyrdd
- Llinellau llwyd: Rheilffordd yr Wyddfa
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Yr Wyddfa (Snowdon), North Wales". British Geological Survey. Cyrchwyd 8 Chwefror 2024.
- ↑ "The Snowdon Range, Gwynedd (or The Snowdon Massif)". OS GetOutside (yn Saesneg). Ordnance Survey. Cyrchwyd 8 Chwefror 2024.
