Mary Wilson (cantores)
Gwedd
| Mary Wilson | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Mawrth 1944 Greenville |
| Bu farw | 8 Chwefror 2021 Las Vegas |
| Man preswyl | Las Vegas, Chicago, Detroit |
| Label recordio | Motown Records |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | canwr, hunangofiannydd, cyfarwyddwr ffilm, cerddor |
| Arddull | rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth ddawns, disgo, ffwnc |
| Math o lais | contralto |
| Gwefan | http://www.marywilson.com/ |
Roedd Mary Wilson (6 Mawrth 1944 – 8 Chwefror 2021) yn gantores Americanaidd, sy'n fwyaf adnabyddus am sefydlu'r grŵp merched The Supremes.[1]
Cafodd Wilson ei geni yn Greenville, Mississippi, yn ferch i Sam a Johnnie Mae Wilson. Priododd y dyn busnes Pedro Ferrer yn Las Vegas, Nevada ar 11 Mai 1974. Roedd ganddyn nhw dri o blant: Turkessa, Pedro Antonio, a Rafael. Fe wnaethant ysgaru ym 1981. Bu farw Rafael mewn damwain car, yn 14 oed; anafwyd Mary yn yr un ddamwain.[2]
Bu farw Mary Wilson yn Henderson, Nevada, yn 76 oed.[3]
Albymau solo
[golygu | golygu cod]- Mary Wilson (1979)
- Walk the Line (1992)
- Up Close: Live from San Francisco
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]Dreamgirl: My Life as a Supreme (1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morris, Chris (8 Chwefror 2021). "Mary Wilson, Co-Founder of the Supremes, Dies at 76". Variety (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2021. Cyrchwyd 9 Chwefror 2021.
- ↑ "Mary Wilson obituary". the Guardian (yn Saesneg). 9 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2021. Cyrchwyd 10 Chwefror 2021.
- ↑ "Mary Wilson, Co-Founder of the Supremes, Dies at 76". The New York Times (yn Saesneg). 8 Chwefror 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2021. Cyrchwyd 9 Chwefror 2021.