Mary Rand
| Mary Rand | |
|---|---|
| Ganwyd | Mary Denise Bignal 10 Chwefror 1940 Wells |
| Bu farw | 26 Mawrth 2026 Reno |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
| Taldra | 1.73 metr |
| Pwysau | 61 cilogram |
| Priod | Sidney Rand, Bill Toomey |
| Gwobr/au | MBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Athletwraig trac a maes o Loegr oedd Mary Denise Rand (ganwyd Bignal; 10 Chwefror 1940 – 27 Mawrth 2026). Enillodd Rand y fedal aur am naid hir yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1964, y fenyw Brydeinig gyntaf i ennill medal aur Olympaidd mewn trac a maes. Torrodd record y byd ar gyfer y digwyddiad hwnnw. Yn yr un Gemau Olympaidd, enillodd fedal arian yn y pentathlon a medal efydd yn y ras gyfnewid sbrint. Hyd at ei marwolaeth, Rand oedd yr unig athletwraig Brydeinig i ennill tair medal mewn un Gemau Olympaidd.[1]
Merch Eric a Hilda Bignal oedd Mary, ac roedd ei thad yn ysgubwr simneiau ac yn lanhawr ffenestri. Cafodd ei geni a'i magu yn Wells, Gwlad yr Haf, Lloegr. [1] Roedd hi'n rhagorol yn y naid uchel, y naid hir a'r clwydi. Ym 1956, roedd hi'n westai i'r garfan Olympaidd mewn gwersyll hyfforddi yn Brighton, lle curodd neidwyr uchel gorau Prydain.
Priododd â rhwyfwr, Sid Rand, ym 1961, ond fe wnaethon nhw ysgaru ar ôl pum mlynedd o briodas. Ym 1969 priododd â Bill Toomey, yr Americanwr a enillodd y decathlon yng Ngemau Olympaidd 1964.[2][3] Ei thrydydd gwr oedd John Reese.
Bu farw yn 86 oed.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Mary Rand obituary: Britain's golden girl" (yn Saesneg). London: Times Media Ltd. 27 Mawrth 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2026. Cyrchwyd 28 Mawrth 2026.
- ↑ Martin, David "RAND WAS BORN TO WIN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2002. Cyrchwyd 2017-06-04.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link). Sporting Life
- ↑ "Where are they now? Mary Rand (athletics)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2008. Cyrchwyd 2007-06-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link). The Olympian. Winter 2004. p. 7
- ↑ Lawton, Matt (27 Mawrth 2026). "Mary Rand, Olympic athletics gold medallist, dies aged 86". The Times. Cyrchwyd 27 March 2026.